Fighting fund banner

 

Wales highlight map

Wales email FE: 25 April 2023 / E-bost Cymru: 25 Ebril 2023

24 April 2023

In today's email

  1. Appeal for interviewees
  2. Education Support

1. Appeal for interviewees

Welsh Government are serious about delivering the Anti Racist Plan in FE. If you have lived experiences of racism in the workplace or take a view on how staff can be supported to explore issues around ethnicity and race equality in their professional practice, please click in the message below:

Invitation to take part in research on Anti-racism in the further education, apprenticeship and adult learning sectors

You are invited to apply to participate in a research project commissioned by The Welsh Government. This is an opportunity to have your voice heard and to make a real difference in race equality in Wales.

The research team will be holding online interviews with members of staff in the Welsh further education, apprenticeship and adult learning sectors over the next six weeks. The intention is to learn from staff members' lived experiences of racism in the workplace; explore how staff can be supported to explore issues around ethnicity and race equality in their professional practice; hear perspectives on what could make FE fairer and more equitable for staff and learners; and consider how a culture of anti-racism can be established and maintained.

Each online interview will last one hour, and participants will be able to choose a slot that fits their schedule. To recognise participants' time and contributions, we will be offering a £30 voucher which can be spent at a wide-range of retailers.

This opportunity is open to all members of staff, full-time and part-time, learner-facing and non-learner-facing, leadership and non-leadership. Staff members of all ethnicities are encouraged to apply.

Click here to read more about the opportunity and apply should you wish to. Please submit the short form by 6pm on Sunday 7 May to avoid missing out.

2. Education Support

Sometimes work (or just life) can be tough and there are many stresses for those who work in education. If you are feeling overwhelmed, stressed, anxious, depressed or if you have personal issues or financial difficulties, Education Support may be able to help.

Education Support can offer free, confidential help and support, no matter what the problem is, in a number of ways, including:

  • Telephone support and counselling
  • Email support and live chat

The helpline is free and available to all lecturers and staff in further or higher education in Wales,  24/7, 365 days a year.

To find out more about these and the other services available, visit the Education Support website.

Or ring ES on 08000 562 561 to get the ball rolling.  
                
It's OK not to be OK, but don't suffer alone. Help is just a call, or click, away!

In Solidarity / Mewn Undod

UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Yn e-bost heddiw:

  1. Apêl am Gyfweleio
  2. Cymorth Addysg

1. Apêl am Gyfweleion

Mae Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn â rhoi'r Cynllun Gwrth-hiliol ar waith ym maes Addysg Bellach. Os oes gennych brofiad bywyd o hiliaeth yn y gweithle neu os oes gennych syniadau o ran sut y gellir helpu staff i ystyried materion sy'n ymwneud ag ethnigrwydd a chydraddoldeb hiliol fel rhan o'u hymarfer proffesiynol, cliciwch yn y neges isod

Aelodau o staff: Gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ar Wrth-hiliaeth yn y sectorau addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion

Fe'ch gwahoddir i wneud cais i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil sy'n cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn gyfle i chi sicrhau y caiff eich llais ei glywed, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym maes cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Bydd y tîm ymchwil yn cynnal cyfweliadau ar-lein ag aelodau o staff yn y sectorau addysg bellach, prentisiaethau a dysgu oedolion yng Nghymru dros y chwe wythnos nesaf. Y bwriad yw dysgu o brofiadau bywyd aelodau o staff o hiliaeth yn y gweithle; archwilio sut y gellir helpu staff i ystyried materion sy'n ymwneud ag ethnigrwydd a chydraddoldeb hiliol yn eu hymarfer proffesiynol; clywed safbwyntiau ar yr hyn a allai wneud addysg bellach yn decach ac yn fwy cyfiawn i staff a dysgwyr; ac ystyried sut y gellir sefydlu a chynnal diwylliant o wrth-hiliaeth. 

Bydd pob cyfweliad ar-lein yn para awr, a bydd y cyfranogwyr yn gallu dewis amser sy'n gyfleus iddyn nhw. Er mwyn cydnabod amser a chyfraniadau'r cyfranogwyr, byddwn yn cynnig taleb gwerth £30 y gellir ei gwario mewn amrywiaeth eang o siopau.

Mae'r cyfle hwn ar gael i bob aelod o staff, p'un a ydynt yn staff amser llawn neu'n staff rhan-amser, p'un a ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â dysgwyr ai peidio, a ph'un a ydynt yn arweinwyr ai peidio.  Caiff aelodau o staff o bob ethnigrwydd eu hannog i wneud cais.

Cliciwch yma i ddarllen mwy am y cyfle ac i wneud cais os hoffech wneud hynny. Cyflwynwch y ffurflen fer erbyn 6pm nos Sul 7 Mai i achub ar y cyfle hwn. 

2. Cymorth Addysg

Weithiau gall gwaith (neu fywyd yn gyffredinol) fod yn anodd, ac mae'r rheini sy'n gweithio ym myd addysg yn teimlo'r straen. Os byddwch chi'n teimlo eich bod wedi'ch gorlethu, dan straen, yn orbryderus, yn isel, neu os bydd gennych broblemau personol neu ariannol, mae'n bosib y gall Cymorth Addysg eich helpu.

Gall Cymorth Addysg gynnig help a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim, waeth beth fo'r broblem, mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys;

  • Cymorth a chwnsela dros y ffôn
  • Cymorth dros e-bost a Sgwrsio byw 

Mae'r llinell gymorth yn rhad ac am ddim ac ar gael i bob darlithydd ac aelod o staff ym maes addysg bellach neu addysg uwch yng Nghymru, bob awr o'r dydd a phob diwrnod o'r flwyddyn.

I ddysgu mwy amdanynt a'r gwasanaethau eraill sydd ar gael, ewch i'r wefan.

Neu ffoniwch Cymorth Addysg ar 08000 562 561 i gychwyn y sgwrs.

Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun.  Mae help ar gael drwy ffonio neu glicio!

In Solidarity / Mewn Undod

UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

 

Last updated: 3 May 2023