Fighting fund banner

 

Wales highlight map

Wales email FE: 4 Oct 2022 / E-bost Cymru: 4 Hydref 2022

4 October 2022

Update on FE 2022 pay claim 

We are writing to update you on progress with this year's Joint Trade Union pay claim of 12%. We received a letter from Guy Lacey, chair of ColegauCymru on the 16 September telling us that  

'I am seeking a meeting with the Minister for Education and Welsh Language as soon as possible to discuss the issue of FE sector pay for 22/23, to advocate the need for parity with schoolteachers and to highlight the significant inflationary pressures that the sector is experiencing.'

We understand the real anger that some members feel about a below inflation pay offers we see in other sectors. The situation in FE in Wales more complex than other sectors and we wanted to lay out the facts, so members understand the decisions which your negotiators are taking on your behalf.

  1. We have a policy of pay parity with schoolteachers and in essence it means that the pay offer made in FE is the same as the pay offer made in schools. If we argue and/or ballot to achieve a pay offer for more than the schoolteachers receive, we will in effect be break our policy on pay parity.
  2. The Minister's decision on the final award to be made to schoolteachers has not been taken in Wales yet.
  3. The National Education Union (NEU) is conducting an aggregated ballot of its schoolteacher members not its FE members in England and Wales. The fact that the ballot is aggregated means that they cannot identify the vote in Wales.

The Further Education Sector Committee (FESC) decided at its meeting on Saturday 24 September to wait until we have a response from the employers to our pay claim before holding a Special FESC on pay. Our situation is further complicated by the fact that we are making progress with the National Workload Steering Group and there will be 5 funded projects looking at ways in which workload can be reduced for lecturers, including a pilot workload allocation model to replace the teaching allocation workload model to be rolled out in three colleges. The purpose of these pilot projects is to establish the costs associated with reducing workload and phase five will be based on bids from the sector for additional funding.

Your negotiators are concerned that a ballot on pay could derail the work being done on workload, which is why it was decided that a Special FESC needed to be called to allow branches to feed into the decision-making. If your branch holds a meeting on pay, please try to attend or if you are teaching let them know what you think in writing. 

This is your pay - make sure your voice is heard.

Your UCU Wales Negotiators

Yn e-bost heddiw:

Diweddariad ar Hawliad Cyflog Addysg Bellach 2022 
 
Rydym yn ysgrifennu atoch i'ch diweddaru ar ddatblygiad hawliad cyflog Cyd-Undebau Llafur o 12% eleni. Cawsom lythyr gan Guy Lacey, cadeirydd Colegau Cymru, ar 16 Medi a oedd yn nodi 
 
'Rwyf yn dymuno cael cyfarfod â Gweinidog y Gymraeg ac Addysg cyn gynted â phosibl i drafod mater cyflog y sector Addysg Bellach 22/23, i hyrwyddo'r angen am gydraddoldeb â chyflog athrawon ysgol ac i dynnu sylw at y pwysau cynyddol sylweddol y mae'r sector yn ei brofi.'
 
Rydym yn deall y dicter gwirioneddol y mae rhai aelodau yn ei deimlo tuag at y cynigion cyflog sydd islaw chwyddiant sydd i'w weld mewn sectorau eraill. Mae'r sefyllfa yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru yn fwy cymhleth na sectorau eraill ac rydym am fanylu ar y ffeithiau, fel bod aelodau yn deall y penderfyniadau a wneir ar eich rhan gan eich negodwyr.
 

  1. Mae gennym bolisi cydraddoldeb cyflog ag athrawon ysgol ac yn ei hanfod, mae'n golygu fod y cynnig cyflog a wneir yn y sector Addysg Bellach yr un peth â'r cynnig cyflog a wneir mewn ysgolion. Os byddwn yn dadlau ac/neu yn cynnal pleidlais i gael cynnig cyflog sy'n fwy na'r hyn mae athrawon ysgol yn ei gael, byddwn yn ein polisi ar gydraddoldeb cyflog i bob pwrpas.
  2. Nid yw penderfyniad y Gweinidog ar y dyfarniad terfynol a wneir i athrawon ysgol wedi ei gymryd yng Nghymru eto.
  3. Mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn cynnal pleidlais gyfunol o'i athrawon ysgol, nid ei aelodau Addysg Bellach yng Nghymru a Lloegr. Gan fod y bleidlais yn un gyfunol ni allant nodi'r bleidlais yng Nghymru.

Fe wnaeth y Pwyllgor Sector Addysg Bellach (FESC) ddewis yn eu cyfarfod ddydd Sadwrn, 24 Medi, i aros nes i ni gael ymateb i'r hawliad cyflog, gan y cyflogwyr, cyn cynnal FESC Arbennig ynghylch cyflog. Mae cymhlethdodau pellach i'n sefyllfa yn sgil ein cynnydd gyda'r Grŵp Llywio Llwyth Gwaith Cenedlaethol, a bydd 5 prosiect a ariennir yn edrych ar ffyrdd o leihau llwyth gwaith i ddarlithwyr, gan gynnwys model dyranu llwyth gwaith peilot i gymryd lle'r model dyranu llwyth gwaith addysgu a gaiff ei gyflwyno mewn tri choleg. Bwriad y prosiectau peilot hyn yw sefydlu'r costau sy'n gysylltiedig â lleihau llwyth gwaith a bydd cam pump yn seiliedig ar gynigion gan y sector am gyllid ychwanegol. 
 
Mae eich negodwyr yn bryderus y gall cynnal pleidlais ar gyflog daflu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar lwyth gwaith oddi ar y cledrau, sef y rheswm pam y penderfynwyd bod angen galw am FESC Arbennig i ganiatáu i ganghennau fwydo i mewn i'r broses o wneud penderfyniadau. Os bydd eich cangen yn cynnal cyfarfod ar gyflog, ceisiwch ei fynychu. Os byddwch yn addysgu, cofiwch nodi'r hyn rydych yn ei feddwl yn ysgrifenedig. 
 
Eich cyflog chi yw hwn--gwnewch yn siŵr y caiff eich llais ei glywed.
 
Eich Negodwyr yn UCU Cymru

In Solidarity / Mewn Undod

UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 3 May 2023