Fighting fund banner

 

Wales email: 18 January 2022 / E-bost Cymru: 18 Ionawr 2022

18 January 2022

In today's email

  1. UCU Wales Green Network 
  2. Education Support 

1. UCU Wales Green Network 

Following last November's COP 26, people might think that the buzz had died down. However, in Wales this is definitely not the case. 

Whilst WTUC's Just Transition for Greener Workplaces report opened the discussion around decarbonization and workplace justice, Welsh Government's Net Zero Wales plan plots the necessary steps to how this might be achieved. 

That said, many questions remained unanswered. Where are the skills of the future going to come from? How can we guarantee that suitable courses, pathways and qualifications are in place? How can we use lifelong learning to ensure that workers in old professions are proofed against long term unemployment? 

This June will see discussions around employability, green skills and apprenticeships. The outcome of these consultations will not only impact the future of UCU Wales members but also Welsh learners, workers and the environment at large. 

Meanwhile, we look to achieve environmental justice in our own workplaces. UCU has run a series of CPD events around decarbonization and decolonization whilst Wales TUC continues to push the Green Rep agenda - something that is reflected in the Program of Government. 

Put briefly, given what's at stake, there has rarely been a better time to be involved!

During the next eight weeks, UCU Wales will be arranging a Green Network Meeting. If you are interested in events, action and discussion, organising or green branch roles please email Jamie Insole

2. Education Support 

Sometimes work (or just life) can be tough and there are many stresses for those who work in education. If you are feeling overwhelmed, stressed, anxious, depressed or if you have personal issues or financial difficulties, Education Support may be able to help.

Education Support can offer free, confidential help and support, no matter what the problem is, in a number of ways, including;

  • telephone support and counselling
  • email support and live chat.

The helpline is free and available to all lecturers and staff in further or higher education in Wales,  24/7, 365 days a year.

Visit the website to find out more about these and the other services available.

Or ring ES on 08000 562 561 to get the ball rolling.

It's ok not to be ok, but don't suffer alone. Help is just a call, or click, away!

In solidarity

UCU Wales

Yn e-bost heddiw:

  1. Rhwydwaith Gwyrdd Cymru UCU
  2. Cymorth Addysg 

1. Rhwydwaith Gwyrdd Cymru UCU

Yn dilyn COP26 fis Tachwedd diwethaf, efallai fod pobl yn meddwl bod y cyffro wedi tawelu. Fodd bynnag, yng Nghymru, nid yw hyn yn wir o gwbl. 

Yn adroddiad TUC Cymru, Gweithleoedd gwyrddach ar gyfer trawsnewid cyfiawn, agorwyd y drafodaeth ynghylch datgarboneiddio a chyfiawnder yn y gweithle, ac mae cynllun Cymru Sero Net Llywodraeth Cymru yn amlinellu'r camau angenrheidiol ar gyfer cyflawni hyn. 

Wedi dweud hynny, mae llawer o gwestiynau i'w hateb o hyd. O ble y daw'r sgiliau ar gyfer y dyfodol? Sut y gallwn warantu bod cyrsiau, llwybrau a chymwysterau addas ar waith? Sut y gallwn ddefnyddio dysgu gydol oes i sicrhau bod gweithwyr mewn hen broffesiynau wedi'u diogelu rhag diweithdra hirdymor? 

Fis Mehefin, cynhelir trafodaethau ynghylch cyflogadwyedd, sgiliau gwyrdd a phrentisiaethau. Bydd canlyniad yr ymgyngoriadau hyn yn effeithio ar ddyfodol aelodau UCU Cymru ynghyd â dysgwyr a gweithwyr yng Nghymru a'r amgylchedd yn gyffredinol. 

Yn y cyfamser, rydym yn awyddus i geisio sicrhau cyfiawnder amgylcheddol yn ein gweithleoedd ein hunain. Mae UCU wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau datblygiad proffesiynol parhaus mewn perthynas â datgarboneiddio a dadwladychu tra bo TUC Cymru yn parhau i hyrwyddo'r agenda werdd - rhywbeth a adlewyrchir yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Yn gryno, o ystyried yr hyn sydd yn y fantol, mae'n amser gwych i gymryd rhan! 

Yn ystod yr wyth wythnos nesaf, bydd UCU Cymru yn trefnu Cyfarfod Rhwydwaith Gwyrdd. Os oes diddordeb gennych mewn digwyddiadau, gweithredu a thrafod, trefnu neu rolau yn y gangen werdd, e-bostiwch Jamie Insole.
 
2. Cymorth Addysg 
 
Weithiau gall gwaith (neu fywyd yn gyffredinol) fod yn anodd, ac mae'r rheini sy'n gweithio ym myd addysg yn teimlo'r straen. Os byddwch chi'n teimlo eich bod wedi'ch gorlethu, dan straen, yn orbryderus, yn isel, neu os bydd gennych broblemau personol neu ariannol, mae'n bosib y gall Cymorth Addysg eich helpu.

Gall Cymorth Addysg gynnig help a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim, waeth beth fo'r broblem, mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • cymorth a chwnsela dros y ffôn
  • cymorth dros e-bost a sgwrsio byw 

Mae'r llinell gymorth yn rhad ac am ddim ac ar gael i bob darlithydd ac aelod o staff ym maes addysg bellach neu addysg uwch yng Nghymru, bob awr o'r dydd a phob diwrnod o'r flwyddyn.

I ddysgu mwy amdanynt a'r gwasanaethau eraill sydd ar gael, ewch i'r wefan.

Neu ffoniwch Cymorth Addysg ar  08000 562 561 i gychwyn y sgwrs.

Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun.  Mae help ar gael drwy ffonio neu glicio!

Mewn undod

Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 19 January 2022