Fighting fund banner

 

Wales email: 28 September 2021 / E-bost Cymru: 28 Medi 2021

28 September 2021

In today's email:

  1. CPD Webinar -- Decarbonise and decolonise
  2. Education Support -- Help when you need it!

1. CPD Webinar -- Decarbonise and decolonise  

UCU Cymru would like to invite you to take part in a Decarbonise and decolonise webinar for UCU members in Wales on Tuesday 5 October at 2pm.

Decarbonise and decolonise is the third in a series of our webinars on the climate crisis, and how we can play our part in resisting it. Building on existing CPD workshops 'Introduction to climate education' and 'Embedding climate education in the curriculum', SOS-UK have developed for UCU a ' Decarbonise and decolonise' workshop to introduce members to the interconnectivity of these two agendas and identify opportunities to take action.

To take part in this webinar you do not need to have completed the previous sessions.  This workshop will give an overview of climate justice, and how this links to the concepts of decolonising and decarbonising as the structural and systemic roots of the human-induced climate crisis. We will explore examples of climate injustice, and how this often intersects with issues like race, gender, class and indigeneity. We will also look at examples of when sustainability actions and initiatives have not taken an intersectional approach, with discussions on how we can avoid this in education to create sustainability activities that recognise and work to challenge the harmful legacies of colonialism and imperialism.

Click here to find out more about this webinar and to register to participate.

2. Education Support -- Help when you need it!

As we start a new academic year, just a quick reminder about the help Education Support can provide.

Sometimes work (or just life) can be tough and there are many stresses for those who work in education. If you are feeling overwhelmed, stressed, anxious, depressed or if you have personal issues or financial difficulties, Education Support may be able to help.

Education Support can offer free, confidential help and support, no matter what the problem is, in a number of ways, including:

  • telephone support & counselling
  • email support & live chat.

The helpline is free and available to all lecturers and staff in further or higher education in Wales,  24/7, 365 days a year.

To find out more about these and the other services available, visit the website or ring ES on 08000 562 561 to get the ball rolling.  
               
It's ok not to be ok, but don't suffer alone. Help is just a call, or click, away!

In solidarity

UCU Wales

Yn e-bost heddiw:

  1. Gweminar DPP -- Datgarboneiddio a dad-drefedigaethu
  2. Cymorth Addysg -- help i chi pan fydd ei angen arnoch!

1. Gweminar DPP -- Datgarboneiddio a dad-drefedigaethu

Hoffai Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru (UCU) eich gwahodd i gymryd rhan mewn gweminar Datgarboneiddio a dad-drefedigaethu  ar gyfer aelodau UCU yng Nghymru ddydd Iau 5 Hydref am 2pm.

Datgarboneiddio a dad-drefedigaethu yw'r drydedd sesiwn yn ein cyfres o weminarau ar yr argyfwng hinsawdd a sut y gallwn chwarae ein rhan yn yr ymdrech i'w wrthsefyll. Gan adeiladu ar weithdai DPP blaenorol 'Cyflwyniad i addysg hinsawdd' ac 'Ymgorffori addysg hinsawdd yn y cwricwlwm', mae SOS-UK wedi datblygu'r gweithdy 'Datgarboneiddio a dad-drefedigaethu' ar gyfer UCU er mwyn cyflwyno rhyng-gysylltedd y ddwy agenda i'r aelodau a thynnu sylw at gyfleoedd i weithredu.

Nid oes angen i chi fod wedi cwblhau'r sesiynau blaenorol er mwyn cymryd rhan yn y weminar hon. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi trosolwg o gyfiawnder hinsawdd, a sut mae hyn yn cysylltu â chysyniadau dad-drefedigaethu a datgarboneiddio fel gwreiddiau strwythurol a systemig yr argyfwng hinsawdd a achosir gan bobl. Byddwn yn archwilio enghreifftiau o gyfiawnder hinsawdd, a sut mae hyn yn croestorri'n aml â materion megis hil, rhywedd, dosbarth a chynhenidrwydd. Byddwn hefyd yn edrych ar enghreifftiau lle nad yw camau gweithredu a mentrau wedi dilyn dull croestoriadol, gyda thrafodaethau am ffyrdd y gallwn osgoi hyn ym myd addysg er mwyn creu gweithgareddau cynaliadwyedd sy'n adnabod gwaddol niweidiol trefedigaethedd ac imperialaeth ac yn gweithio i'w herio.

I gael rhagor o wybodaeth am y weminar hon ac i gofrestru er mwyn cymryd rhan, cliciwch yma.

2. Cymorth Addysg -- help i chi pan fydd ei angen arnoch!

Wrth i ni ddechrau blwyddyn academaidd newydd, cofiwch y gall Cymorth Addysg eich helpu.

Weithiau gall gwaith (neu fywyd yn gyffredinol) fod yn anodd, ac mae'r rheini sy'n gweithio ym myd addysg yn teimlo'r straen. Os byddwch chi'n teimlo eich bod wedi'ch gorlethu, dan straen, yn orbryderus, yn isel, neu os bydd gennych broblemau personol neu ariannol, mae'n bosib y gall Cymorth Addysg eich helpu.

Gall Cymorth Addysg gynnig help a chymorth cyfrinachol yn rhad ac am ddim, waeth beth fo'r broblem, mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • cymorth a chwnsela dros y ffôn
  • cymorth dros e-bost a sgwrsio byw.

Mae'r llinell gymorth yn rhad ac am ddim ac ar gael i bob darlithydd ac aelod o staff ym maes addysg bellach neu addysg uwch yng Nghymru, bob awr o'r dydd a phob diwrnod o'r flwyddyn.

I ddysgu mwy amdanynt a'r gwasanaethau eraill sydd ar gael, ewch i'r wefan.

Neu ffoniwch Cymorth Addysg ar 08000 562 561 i gychwyn y sgwrs.

Mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, ond peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun.  Mae help ar gael drwy ffonio neu glicio!

Mewn Undod
Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 1 October 2021