Fighting fund banner

 

E-bost Cymru: 29 Ionawr 2020 / Wales email: 29 January 2020

29 January 2020

Yn e-bost heddiw:

  • Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith (Addysg Bellach yng Nghymru)
  • Y cyfnod prawf mewn sefydliadau cyn 92

Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith (Addysg Bellach yng Nghymru) 

Mae UCU wedi cyflwyno cais i ColegauCymru sy'n cwmpasu'r canlynol: 

  • Gostwng uchafswm yr oriau addysgu wythnosol o 24 i 21
  • Gostwng uchafswm yr oriau addysgu blynyddol o ganlyniad i hynny
  • Cynyddu'r amser a roddir i baratoi a marcio o 20 munud i 30 munud am bob awr o addysgu.

 Rydym bellach yn bwriadu cynnal pleidlais statudol dros streicio er mwyn ein galluogi i gymryd camau gweithredu diwydiannol yn gyflym pan fydd y cyflogwyr yn gwrthod mynd i'r afael â'n cais. Mae'n bosibl mai dyma fydd ein cyfle olaf i leihau llwyth gwaith darlithwyr er eu hiechyd a'u lles eu hunain, yn ogystal â chynnal safon uchel o addysgu ym mhob rhan o'r sector Addysg Bellach yng Nghymru.

Cadarnhau eich data aelodaeth

Bydd UCU Cymru yn gofyn i aelodau sy'n gweithio yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru bleidleisio dros streicio ym mis Chwefror 2020, ac mae'n rhaid iddo sicrhau bod ei gofnodion aelodaeth yn gyfredol. Mae UCU Cymru yn ymwybodol o'r ffaith bod rhai sefydliadau wedi bod yn destun ymarfer ailstrwythuro, a'i bod yn bosibl bod rhai aelodau wedi gadael sefydliadau, a bod enwau adrannau wedi newid. Mae'n bwysig iawn bod aelodau'n cadarnhau ac yn diweddaru eu gwybodaeth ar gronfa ddata UCU er mwyn sicrhau bod y wybodaeth gywir gennym am aelodau ac adrannau ar y gronfa ddata aelodaeth. 

Er mwyn sicrhau y caiff pob aelod cymwys ei gynnwys yn y bleidlais, a bod gennym y wybodaeth gywir amdano, rydym yn gofyn i aelodau gadarnhau a diweddaru'r wybodaeth a ddelir amdanynt ar gronfa ddata aelodaeth UCU

Mae eich pleidlais yn bwysig i ni

Rhaid i UCU sicrhau bod o leiaf 50% o'i aelodau yn cymryd rhan yn y bleidlais dros weithredu diwydiannol. Os na fydd o leiaf 50% o aelodau yn cymryd rhan yn y bleidlais, ni fydd yn bosibl i ni ofyn iddynt streicio. Rydym wedi cael gwybod bod rhai aelodau yn penderfynu peidio pleidleisio mewn pleidleisiau dros streicio am fod ofn arnynt y cânt eu henwi. Hoffem dawelu meddwl pob aelod bod ei bleidlais, a gaiff ei bwrw drwy'r post, yn gwbl gyfrinachol gan fod ein pleidleisiau yn cael eu cynnal gan gorff annibynnol, sef Civica Election Services. 

Yn olaf, pleidleisiwch IE yn y bleidlais #WorkloadMatters #ItsTimeFor21 

Y cyfnod prawf mewn sefydliadau cyn 92 

Mae telerau prawf yn fater cyffredin mewn sefydliadau cyn 92. Ni ddylai fod angen i chi gwblhau cyfnod prawf academaidd fwy nag unwaith pan fyddwch yn symud o un sefydliad i'r llall, ond serch hynny, caiff telerau prawf eu cynnwys mewn contractau newydd yn aml, hyd yn oed contractau aelodau y cadarnhawyd eu bod mewn swydd yn flaenorol. Mae cyfnod prawf sefydliadol byr (er mwyn cwblhau'r broses sefydlu ac ymgartrefu yn eich sefydliad newydd) yn wahanol i gyfnod prawf academaidd estynedig. Mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch cangen leol os byddwch yn symud o un sefydliad cyn 92 i'r llall, oherwydd efallai y gall eich cangen newydd eich helpu i fynd i'r afael â phryderon neu faterion sy'n codi wrth i chi negodi eich contract.

Mewn Undod

Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru


In today's email: 

  • Workload dispute (FE Wales)
  • Pre 92 institution probation period
     

Workload dispute (FE Wales) 

UCU have presented a claim to ColegauCymru covering:

  • A reduction in the maximum weekly teaching hours from 24 to 21
  • a consequential reduction in the maximum annual teaching hours.
  • an increase in the amount of preparation and marking time from 20 minutes to 30 minutes for every hour of teaching.

We are now planning to run a statutory ballot for strike action to allow us to move quickly to industrial action when the employers refuse to address our claim. This could be our last chance to deliver on the reductions in lecturer's workload everyone so desperately needs for their own health and well-being, in addition to maintaining the high standard of teaching across the FE sector in Wales. 

Checking your membership data 

UCU Wales will be balloting members in FE Wales for strike action in February 2020 and UCU are required to have up to date membership records. UCU Wales is mindful that some institutions have gone through a restructuring exercise and some members may have left institutions and department names may have changed. It is most important for members to check and update UCU database to ensure that we have the correct information about members and departments on the membership database. 

In order to ensure that all eligible members are included in the ballot, and that we have the correct information on them, we are asking members to check and update the information held on the UCU membership database:

Your vote is important to us

UCU are required to achieve a minimum 50% turnout in our ballot for industrial action. If we fail to achieve a 50% turnout the ballot, we will not be able to call on members to take strike action. We have had reports that some members don't vote in strike ballots because of fear of being identified. We would like to assure all members that their vote which will be cast by post is entirely confidential as our ballot are conducted by an independent body called the Civica Election Services (CES). 

Finally, vote YES in the ballot #WorkloadMatters #ItsTimeFor21 

Pre 92 institution probation period 

Probation terms are a common issue in pre 92 institutions. It should not be necessary to complete academic probation more than once when you move from one institution to another, but nevertheless, probation terms are often written into new contracts even for members who have previously been confirmed in post. A short institutional probation (for induction and to settle in to your new institution) is different to an extended academic probation period. It is important to inform your local branch if you move from one post 92 institution to another as your new branch may be able to help address concerns or issues arising during your contract negotiation.

In solidarity

UCU Wales

Last updated: 29 January 2020