Fighting fund banner

 

UCU Wales email 20 July 2021 / E-bost Cymru: 20 Gorffennaf 2021

20 July 2021

In today's email 

  1. Pay claim FE Wales
  2. Professional learning FE Wales
  3. 'Well Aware' project FE Wales
  4. Workload update FE Wales
  5. Novus Cambria Berwyn prison education branch pay claim

1. Pay claim FE Wales

The joint trade unions (JTUs) submitted this year's pay claim and CC are waiting for the final decision on teachers pay, as they indicated their desire to maintain pay parity with school teachers. They were also minded to give some thought to the request not to award different settlements for different cohorts of staff. CC will provide a full response and are looking for implementation in November 21.

2. Professional learning FE Wales

UCU are running a project to look at professional learning and its impact on retention in the coming academic year. We have run a series of focus groups in the partner colleges and the evidence clearly shows that students and management value the work done by staff to support the learners and prevent drop rates increasing. We have also agreed to 'road test' the tools developed by the EWC which codify the professional standards. If you are asked to take part in this work, we'd greatly appreciate you taking the time to reflect on these tools and share your thoughts with our independent researchers. 

3. 'Well Aware' project FE Wales 

UCU Wales has partnered with the JTUs to lead an exciting FE staff wellbeing research project in the new academic year. Funded by Welsh government, 'Well Aware'' will pilot in Coleg Cymoedd, Pembroke and GLLM to develop a team of well being reps. Research shows that 12.8 million working days are lost due to the work-related stress, depression or anxiety and 71% of education professionals cited workload as the main reason for considering leaving their jobs. Members will know that the pressure Covid-19 has, in many cases, exacerbated this situation. Consequently, Well Aware reps will work with college leads to tackle stigma whilst exploring meaningful measures designed to improve staff wellbeing. UCU Wales believes that that staff's mental and emotional wellbeing should be treated with the same importance as any other health and safety issue. We think that this project marks a significant step in the right direction. 

4. Workload update FE Wales

The independent chair, John O'Shea ex principal of Coleg Merthyr, has produced his report and recommendations from phase two of the work. One of the main recommendations is that campus trade unions work with colleges to identify the administration pressures on lecturers to see what can be changed, assuming costs could be met by college or funded by government in stage three of the project. However, we currently have a disagreement with the employers about what should be costed in phase three and we are arguing that the project proposal must recognise all the finding from the survey, not just those which impact on administration. The JTUs want CC to recognise that the current 20 minutes of preparation and marking time within the national workload agreement does not reflect the actual amount of work currently undertaken by lecturers, as reported by the survey. The survey tells us that 12.5 hours are spent on assessment, marking, planning and preparation, and that figure does not include the 4 hours needed currently to convert teaching materials to deliver blended and digital learning. Addressing workload will require the 20 minutes preparation and marking time to be increased to 40 minutes. We are also arguing for the maximum teaching time to be reduced over three years to 21 hours, reflecting the average of 21 hours reported in the survey. Finally, we have asked that over three year each lecturer has an allocated amount of time, one hour increasing to three hours per week, pro rata for part time staff. However, the principals don't want to agree to this and the steering group was postponed for a month to allow the JTUs and CC to come to an agreement about what financial directors should be asked to cost in phase three of the project. Next steering group meeting is the 11 August 2021.

5. Novus Cambria Berwyn prison education branch pay claim

Following consultation with members, the JTUs tabled a claim for a 5% pay increase across the board to address the falling standards of living of Novus Cambria Berwyn prison education staff. We are also seeking Improvements to holiday entitlement for all staff. We have made the case for parity of esteem with the further education sector in Wales where lecturing staff enjoy 46 days paid annual leave in each holiday year and 8 bank and public holidays. The joint trade unions have asked Novus Cambria Berwyn if they will agree to work towards parity of esteem with the FE sector in Wales and we are awaiting a response. 

We had our first meeting with the employer on the 26 May 2021, when we presented the claim which you can find here. The employer is considering the claim and we are due to meet with the employer again on the 4 August 2021.

In solidarity

UCU Wales

Yn e-bost heddiw

  1. Hawliad Cyflog Addysg Bellach (AB) yng Nghymru
  2. Dysgu proffesiynol ym maes Addysg Bellach (AB) yng Nghymru
  3. Prosiect Ymwybyddiaeth Llesiant ym maes Addysg Bellach yng Nghymru
  4. Y Diweddaraf am Lwyth Gwaith Addysg Bellach yng Nghymru
  5. Hawliad Cyflog Cangen Addysg mewn Carchardai Novus Cambria Berwyn

1. Hawliad Cyflog Addysg Bellach (AB) yng Nghymru

Cyflwynodd y Cyd-undebau Llafur hawliad cyflog eleni, ac mae CC yn aros am y penderfyniad terfynol ynghylch cyflog athrawon gan ei fod wedi mynegi ei ddymuniad i gynnal cyflog cyfartal i athrawon ysgol. Fe'i hatgoffwyd hefyd i ystyried y cais i beidio â dyfarnu setliadau gwahanol i garfanau gwahanol o staff. Bydd CC yn rhoi ymateb llawn ac mae'n anelu at weithredu ym mis Tachwedd 21.

2. Dysgu proffesiynol ym maes Addysg Bellach (AB) yng Nghymru

Mae UCU yn cynnal prosiect i ystyried dysgu proffesiynol a'i effaith ar gyfraddau cadw yn y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Rydym wedi cynnal cyfres o grwpiau ffocws yn y colegau partner ac mae'r dystiolaeth yn dangos yn glir fod y myfyrwyr a'r rheolwyr yn gwerthfawrogi'r gwaith a wneir gan staff i gefnogi'r dysgwyr ac atal cyfraddau cwympo rhag cynyddu. Rydym hefyd wedi cytuno i 'dreialu'r' adnoddau a ddatblygwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg sy'n codeiddio'r safonau proffesiynol. Os gofynnir i chi gymryd rhan yn y gwaith hwn, byddem yn gwerthfawrogi'n fawr pe byddech yn rhoi o'ch amser i fyfyrio ar yr adnoddau hyn a rhannu'ch syniadau gyda'n hymchwilwyr annibynnol.

3. Prosiect Ymwybyddiaeth Llesiant ym maes Addysg Bellach Cymru

Mae UCU Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r Cyd-undebau Llafur i arwain prosiect ymchwil llesiant ar gyfer staff Addysg Bellach yn y flwyddyn academaidd newydd. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd y prosiect yn cael ei dreialu yng Ngholeg y Cymoedd, Coleg Penfro a Grŵp Llandrillo Menai i ddatblygu tîm o Gynrychiolwyr Llesiant. Dengys ymchwil fod 12.8 miliwn o ddiwrnodau gwaith yn cael eu colli oherwydd straen sy'n gysylltiedig â gwaith, iselder neu orbryder, gyda 71% o weithwyr addysg proffesiynol yn nodi mai llwyth gwaith yw'r prif reswm dros ystyried gadael eu swyddi. Bydd yr aelodau'n gwybod bod pwysau COVID-19, mewn sawl achos, wedi gwaethygu'r sefyllfa hon. O ganlyniad, bydd Cynrychiolwyr Ymwybyddiaeth Llesiant yn gweithio gydag arweinwyr Colegau i fynd i'r afael â stigma, gan archwilio mesurau ystyrlon sydd â'r nod o wella llesiant staff. Mae UCU Cymru o'r farn y dylid rhoi'r un pwys ar lesiant meddyliol ac emosiynol staff ag a roddir ar unrhyw fater iechyd a diogelwch arall. Credwn fod y prosiect hwn yn nodi cam arwyddocaol i'r cyfeiriad cywir.

4. Y Diweddaraf am Lwyth Gwaith Addysg Bellach yng Nghymru

Mae'r cadeirydd annibynnol, John O'Shea, cyn bennaeth Coleg Merthyr, wedi llunio ei adroddiad a'i argymhellion o gam dau y gwaith. Un o'r prif argymhellion yw y dylai undebau llafur ar y campws weithio gyda cholegau i nodi'r pwysau gweinyddol ar ddarlithwyr er mwyn gweld beth y gellir ei newid, gan dybio y gallai'r costau gael eu talu gan y coleg neu eu hariannu gan y llywodraeth yng ngham tri y prosiect. Fodd bynnag, rydym mewn anghytundeb â'r cyflogwyr ar hyn o bryd o ran yr hyn y dylid ei gostio yng ngham tri, ac rydym yn dadlau bod yn rhaid i gynnig y prosiect gydnabod holl ganfyddiadau'r arolwg, nid dim ond y rhai sy'n effeithio ar weinyddu. Mae'r Cyd-undebau Llafur yn awyddus i CC gydnabod nad yw'r 20 munud cyfredol o amser paratoi a marcio yn y Cytundeb Llwyth Gwaith Cenedlaethol yn adlewyrchu swm y gwaith a wneir gan ddarlithwyr ar hyn o bryd, fel y mae'r arolwg yn ei ddangos. Mae'r arolwg yn dweud wrthym fod 12.5 o oriau'n cael eu treulio'n asesu, marcio, cynllunio a pharatoi, ac nad yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys y pedair awr sydd eu hangen ar hyn o bryd i drosi deunyddiau addysgu er mwyn cyflwyno dysgu cyfunol a digidol. Bydd angen i'r amser paratoi a marcio o 20 munud gael ei gynyddu i i 40 munud er mwyn mynd i'r afael â'r llwyth gwaith. Rydym hefyd yn dadlau dros leihau'r uchafswm amser addysgu dros gyfnod o dair blynedd i 21 awr, gan adlewyrchu'r cyfartaledd o 21 awr a nodwyd yn yr arolwg. Yn olaf, rydym wedi gofyn am i bob darlithydd, dros gyfnod o dair blynedd, gael amser dynodedig, sef un awr gan gynyddu i dair awr yr wythnos, pro rata ar gyfer staff rhan amser. Fodd bynnag, nid yw'r penaethiaid am gytuno i hyn, a chafodd y grŵp llywio ei ohirio am fis er mwyn i'r Cyd-undebau Llafur a'r CC ddod i gytundeb ynghylch yr hyn y dylid gofyn i gyfarwyddwyr ariannol ei gostio yng ngham tri y prosiect. Cynhelir cyfarfod nesaf y grŵp llywio ar 11 Awst 2021.

5. Hawliad Cyflog Cangen Addysg mewn Carchardai Novus Cambria Berwyn

Yn dilyn ymgynghoriad â'r aelodau, mae'r Cyd-undebau Llafur wedi cyflwyno cais am godiad cyflog o 5% i bawb er mwyn mynd i'r afael â'r gostyngiad mewn safonau byw i staff addysg mewn carchardai Novus Cambria Berwyn. Rydym hefyd yn ceisio gwelliannau o ran hawl i wyliau ar gyfer pob aelod o staff. Rydym wedi cyflwyno'r achos dros barch cydradd gyda'r sector Addysg Bellach yng Nghymru lle mae staff darlithio'n cael 46 diwrnod o wyliau blynyddol â thâl ym mhob blwyddyn wyliau ac 8 gŵyl banc a chyhoeddus. Mae'r cyd-undebau llafur wedi gofyn i Novus Cambria Berwyn a fydd yn cytuno i weithio tuag at barch cydradd gyda'r sector Addysg Bellach yng Nghymru, ac rydym yn aros am ymateb.

Cawsom ein cyfarfod cyntaf gyda'r cyflogwr ar 26 Mai 2021, pan wnaethom gyflwyno'r hawliad, y gallwch ei weld YMA. Mae'r cyflogwr yn ystyried yr hawliad a byddwn yn cyfarfod eto â'r cyflogwr ar 4 Awst 2021.

Mewn undod

UCU Cymru

Last updated: 20 July 2021