Fighting fund banner

 

Wales email: 04 June 2019 / E-bost Cymru: 04 Mehefin 2019

4 June 2019

Wales flag In today's email:

  1. HE restructuring & redundancies

  2. FE pay and workload dispute

  3. Education Support Partnership

  4. Future Generations Act 'Skills for the Future' consultation event

  5. Curriculum for Wales 2022 feedback

  6. TUC Wales Women's Summer School

1. HE restructuring & redundancies

We are currently facing a number of redundancy consultations:

  • Aberystwyth University are consulting with unions on the restructuring of IBERS.  The University are looking to make savings of £2.5 million.  The University have taken the unusual step of proposing selection criteria

  • Bangor University are consulting unions on a further 10% reduction in non-pay expenditure.  UCU have conducted an indicative ballot in light of discussions about voluntary and possible compulsory redundancies.

  • Cardiff University are consulting UCU about transforming Cardiff University.  The University are looking to reduce staff costs from 60% down to 56% of income by 2022/23.

  • Glyndwr University are consulting unions on proposals to restructure a number of departments.  The University have issued a section 188 notice and declared 40 staff at risk of redundancy, including 9 academic posts.  

  • UWTSD have issued a section 188 notice and are consulting unions over plans to save almost £3 million.

2. FE pay and workload dispute

  1. Drafting group on Workload: Met on Tuesday 21st May to discuss the role of Personal tutor and Course tutors PALs etc, we'll be looking at IVing in the next meeting in June, probably 14th June. It is clear from the information received to date that most do not understand what it is I have been asking for in relation to information, so a template for IVing has been created and was circulated by your branch officers. Please complete and return.

  2. Apologies if I haven't made it clear, but in order to get the employer to agree to amend the narrative in the National Workload agreement then Mererid (UCAC) and I need to produce evidence in the drafting group meetings that demonstrates what staff are required to do AND that it can't be done within the current 5 hours DD time in the current contract.  

  3. Pay Claim: Further JTU meeting needed to finalise the claim, looking for a date in June to do this.

3. Education Support Partnership

The Education Support Partnership are a national charity supporting anyone working in education. They offer a free counselling service available 24/7, 365 days a year and financial assistance to those experiencing financial worries. The ESP campaign for healthy and supportive conditions for all education staff in the UK using surveys as a way of gauging the health and wellbeing in the sector. The surveys identify trends and offer solutions to organisations and individuals.

4. Future Generations Act 'Skills for the Future' consultation event

UCU Wales recently contributed to a roundtable consultation event organised by the Future Generations Commissioner for Wales, Sophie Howe, which focussed upon 'Skills for the Future'.  The Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 seeks to improve the social, economic, environmental and cultural well-being of Wales. It is underpinned by seven well-being goals and requires public bodies to demonstrate how they will meet these. 

In preparation for her Future Generations Report 2020 the Commissioner, in collaboration with Cardiff University Business School, is consulting with a range of stakeholders about the improvements public bodies should make to secure a prosperous Wales with a skilled and well-educated population in an economy that generates wealth and provides employment opportunities. 

The focus of their work thus far has been upon the role of technology but we have been assured that post-16 education is a priority area that will be looked at in due course. UCU Wales will be continue to contribute to this process with further discussions planned for late June 2019. To find out more or to contribute to this process please get in touch with Bethan Winter, Policy and Communications Officer, UCU Wales.

5. Curriculum for Wales 2022 feedback

UCU Wales has been invited to provide feedback on the Welsh Government's assessment proposals to support the Curriculum for Wales 2022. Further details regarding the proposals can be found by clicking on the following link.
If you have any queries about this process or have comments you wish to have included in our feedback submission please send these to Bethan Winter, Policy and Communications Officer, UCU Wales.

6. TUC Wales Women's Summer School

TUC Wales Women's Summer School is a great chance to develop your skills as a rep/activist. Through a series of discussions, presentations and activities you will build your knowledge, skills, confidence and make friends and contacts with other union women. Topics include, negotiating, support members, equality and organising.

The Women's Summer School is free for trade unionists living or working in Wales. The Wales TUC will cover accommodation, food and non-alcoholic refreshments, but can't cover your travel expenses, UCU will meet the costs of travel. Speak to your branch chair if you are interested in attending the summer school. Contact the office on 01656 721951 if you can't get hold of your branch chair.

In solidarity / Mewn undod      
UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru


Yn e-bost heddiw:

  1. Ailstrwythuro a Dileu Swyddi AU

  2. Anghydfod ynghylch Tâl a Llwyth Gwaith Addysg Bellach

  3. Partneriaeth Cymorth Addysg

  4. Digwyddiad Ymgynghori 'Sgiliau ar gyfer y Dyfodol' Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol

  5. Adborth Cwricwlwm i Gymru 2022

  6. Ysgol Haf i Fenywod TUC Cymru


1. Ailstrwythuro a Dileu Swyddi AU

Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu nifer o ymgynghoriadau ynghylch dileu swyddi: 

  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymgynghori ag undebau ynghylch ailstrwythuro Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Mae'r Brifysgol yn anelu at wneud arbedion o £2.5 miliwn. Mae'r Brifysgol wedi cymryd y cam anarferol o gynnig meini prawf dethol. 

  • Mae Prifysgol Bangor yn ymgynghori ag undebau ynghylch lleihad pellach o 10% mewn gwariant nad yw'n wariant ar gyflogau. Mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi cynnal pleidlais ddangosol yn sgil trafodaethau ynglŷn â dileu swyddi yn wirfoddol ac efallai ddileu swyddi yn orfodol. 

  • Mae Prifysgol Caerdydd yn ymgynghori ag UCU ynghylch trawsnewid Prifysgol Caerdydd. Mae'r Brifysgol yn anelu at leihau costau staff o 60% i 56% o incwm erbyn 2022/23. 

  • Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymgynghori ag undebau ynghylch cynigion i ailstrwythuro nifer o adrannau. Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi hysbysiad adran 188 ac wedi datgan bod 40 o aelodau o staff mewn perygl o golli eu swyddi, gan gynnwys 9 swydd academaidd. 

  • Mae PCYDDS wedi cyhoeddi hysbysiad adran 188 ac mae'n ymgynghori ag undebau ynghylch cynlluniau i arbed bron i £3 miliwn.

2.    Anghydfod ynghylch Tâl a Llwyth Gwaith Addysg Bellach

  1. Grŵp Drafftio Llwyth Gwaith: Gwnaeth y grŵp gyfarfod ddydd Mawrth 21 Mai i drafod rôl Tiwtor Personol a Thiwtoriaid Cwrs a dysgu â chymorth cymheiriaid (PALs) ac ati, byddwn yn edrych ar drefniadau gwirio mewnol yn y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin, 14 Mehefin siŵr o fod. Mae'n glir o'r wybodaeth a gafwyd hyd yn hyn nad yw'r mwyafrif yn deall beth yn union rwyf wedi bod yn gofyn amdano mewn perthynas â gwybodaeth, felly crëwyd templed ar gyfer gwirio mewnol a chafodd ei ddosbarthu gan eich swyddogion cangen. Cwblhewch y templed a'i ddychwelyd.

  2. Ymddiheuriadau os nad wyf wedi gwneud hyn yn glir, ond er mwyn sicrhau bod y cyflogwr yn cytuno i ddiwygio'r naratif yn y Cytundeb Llwyth Gwaith Cenedlaethol mae angen i Mererid (UCAC) a minnau gyflwyno tystiolaeth yng nghyfarfodydd y grŵp drafftio sy'n dangos yr hyn y mae angen i staff ei wneud AC nad oes modd gwneud hyn o fewn y 5 awr sydd wedi eu neilltuo ar gyfer dyletswyddau adrannol yn y contract presennol. 

  3. Hawliad Cyflog: Mae angen cyfarfod arall o'r Cyd-undebau Llafur er mwyn cadarnhau'r hawliad. Rydym yn chwilio am ddyddiad ym mis Mehefin i wneud hyn.

3. Partneriaeth Cymorth Addysg

Mae'r Bartneriaeth Cymorth Addysg yn elusen genedlaethol sy'n cefnogi unrhyw un sy'n gweithio ym myd addysg. Mae'n cynnig gwasanaeth cwnsela am ddim sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a chymorth ariannol i'r rhai hynny sy'n wynebu pryderon ariannol. Mae ymgyrch y Bartneriaeth dros sicrhau amodau iach a chefnogol i holl staff addysg y DU yn defnyddio arolygon fel ffordd o gael amcan o iechyd a llesiant yn y sector. Mae'r arolygon yn nodi tueddiadau ac yn cynnig atebion i sefydliadau ac unigolion. 

4. Digwyddiad Ymgynghori 'Sgiliau ar gyfer y Dyfodol' Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol

Yn ddiweddar cyfrannodd UCU Cymru at ddigwyddiad ymgynghori bord gron a drefnwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, a oedd yn canolbwyntio ar 'Sgiliau ar gyfer y Dyfodol'. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ceisio gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Caiff ei hategu gan saith nod llesiant ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff dyfarnu ddangos sut y byddant yn cyflawni'r nodau hyn. 

Er mwyn paratoi ar gyfer Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020 mae'r Comisiynydd yn ymgynghori ag amrywiaeth o randdeiliaid, mewn cydweithrediad ag Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd, ynghylch y gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud er mwyn sicrhau bod Cymru'n ffynnu gyda phoblogaeth fedrus a hyddysg mewn economi sy'n creu cyfoeth ac sy'n cynnig cyfleoedd cyflogaeth. 

Hyd yn hyn mae eu gwaith wedi canolbwyntio ar rôl technoleg ond rydym wedi cael sicrwydd bod addysg ôl-16 yn faes â blaenoriaeth a gaiff ei ystyired maes o law. Bydd UCU Cymru yn parhau i gyfrannu at y broses hon ac mae trafodaethau pellach wedi'u cynllunio ar gyfer diwedd mis Mehefin 2019. I gael rhagor o wybodaeth neu i gyfrannu at y broses hon cysylltwch â Bethan Winter, Swyddog Polisi a Chyfathrebu, UCU Cymru.

5.    Adborth Cwricwlwm i Gymru 2022

Gwahoddir UCU Cymru i roi adborth ar gynigion asesu Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi Cwricwlwm i Gymru 2022. Gellir cael rhagor o fanylion ynglŷn â'r cynigion drwy glicio ar y ddolen ganlynol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses hon neu os oes gennych sylwadau yr hoffech iddynt gael eu cynnwys yn ein cyflwyniad adborth anfonwch nhw at Bethan Winter, Swyddog Polisi a Chyfathrebu, UCU Cymru.

6.    Ysgol Haf i Fenywod TUC Cymru

Mae Ysgol Haf i Fenywod TUC Cymru yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau fel cynrychiolydd/actifydd. Drwy gyfres o drafodaethau, cyflwyniadau a gweithgareddau byddwch yn datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau, eich hyder ac yn gwneud ffrindiau a chysylltiadau â menywod sy'n aelodau o undebau eraill. Mae'r pynciau'n cynnwys negodi, cefnogi aelodau, cydraddoldeb a threfnu.

Mae'r Ysgol Haf i Fenywod am ddim i undebwyr llafur sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru. Bydd TUC Cymru yn talu costau llety, bwyd a diodydd dialcohol, ond ni all dalu eich costau teithio; UCU fydd yn talu eich costau teithio. Siaradwch â chadeirydd eich cangen os oes diddordeb gennych mewn mynychu'r ysgol haf. Os na allwch gael gafael ar gadeirydd eich cangen, cysylltwch â'r swyddfa ar 01656 721951.

In solidarity / Mewn undod      
UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 11 June 2019