Fighting fund banner

 

Wales highlight map

Wales email FE: 7 February 2023 / E-bost Cymru: 7 Chwefror 2023

7 February 2023

In today's email:

  1. FE pay update
  2. Workload update
  3. Wales TUC Black activists development programme

1. FE pay update

With energy bills soaring, food and fuel costs spiralling, and inflation at over 12 percent in May 2022, the Joint Trade Unions (JTU) for Further Education in Wales submitted a claim in May 2022 for a 'pay uplift across all scales this year of an increase of at least 12%'. 

We commenced negotiations and in November 2022 we reached an impasse, and the FE colleges and trade unions agreed a cost of living supplement and uprated Real Living Wage to ensure that our member received a 5% supplementary pay rise before Christmas. The payment was made to college staff in December 2022 and will be ongoing from January 2023 and subject to further negotiations with the joint trade unions in January 2023.

The Joint Trade Unions in Further Education met with ColegauCymru on 12 January to discuss pay. A request was made by the JTU to CC for a formal response to our 2022/23 pay claim.

Subsequently, ColegauCymru were due to meet with the Welsh government on 23 January about the funding for any pay offer, but this was put back to 31 January. ColegauCymru have agreed to write to us with an updated position after the meeting with Welsh government. As soon as we have a firm offer, we will be discussing our response as joint trade unions and update you as soon as possible.  

Post-16 pay in further education is linked to pay in the compulsory education sector in Wales. Teachers were issued with a new offer which was rejected by the school-based unions, but discussions are ongoing. Until this has been resolved it is unlikely that the post-16 pay in further education will be agreed. Workload and maintaining pay parity with the compulsory education sector is the priority of UCU Cymru. We are aware that members are asking why UCU is not in dispute in with employers. UCU Cymru further education committee (FEC) are committed to resolving workload for members and unions, ColegauCymru and Welsh government are working in social partnership to address those concerns. If we declare a dispute on pay, we could jeopardise the workload project. UCU Cymru are not in a position to declare a dispute or take action on pay in FE as we have not yet received a formal response to our pay claim. 

We have also asked for an update on additional leave for support staff as part of the 2021/22 claim which remains unresolved. The support staff pay scale, part of the outstanding 2021/22 pay award, is still pending following feedback from ColegauCymru on its findings.

2. Workload update 

Background 

Workload has been a campaigning priority for UCU Cymru for the past 6 years. Since March 2021, the academic trade unions have been meeting with Welsh government officials and ColegauCymru to start to address the excessive workload of lecturers in FE. Excessive workload has been evidenced twice by the workforce survey conducted by the EWC in 2016 and 2021 and by a separate UCU survey in 2015/2016, which found very similar data to that of the EWC. In the 2021 national education workforce survey results, workload concerns were raised as a common issue. Since then, the national workload steering group (joint trade unions, ColegauCymru and Welsh government) has been working in social partnership to address those concerns.

The group now wants to assess the progress made to date and have asked the EWC to undertake this survey to help measure how much has been achieved.

If you are a registered further education or work-based learning practitioner, or business support staff in colleges, you can complete your survey nowThe closing date for the survey is Friday 31 March 2023.

Workload project overview

Phases 1 and 2 of the project involved a survey of lecturers and discussion by the social partnership, to establish the extent of excess workload for lecturers and potential underlying reasons. As part of Phase 2 a report was produced by the Steering Group which identified eight themes for consideration and a set of recommendations for colleges to consider in collaboration with their local trade unions; ColegauCymru HRD network; ColegauCymru Curriculum and Quality network; WNCFE and Welsh government. One of the recommendations, was for the WNCFE to review the workload agreement during 2021-24 to reduce workload and enhance wellbeing. 

Phase 3 of the project involved each individual college reviewing local workload issues and agreeing a local action plan. These plans were submitted in January 2022 and have been analysed to identify common themes. 

Phase 4 of the project consists of four strands, strand two of which is 'continuation of the work of the WNCFE to address the recommendations of Phase 2 - for potential implementation in 2022-23', WNCFE to: 

1. Review the national workload agreement to reduce workload and enhance wellbeing; and address the need to create head room for lecturers to develop their collaborative professional learning--by agreeing a workload allocation model.

This project involves a bid for funding from Welsh government to pilot the implementation of the draft revised workload allocation agreement as set out by the National Social Partnership. We are aiming to have the bid signed off in February and the workload project will run over 15 months with a 12-month workload allocation monitoring period that will run over a complete academic year 2023/24.

NPTC Group of Colleges, Pembrokeshire College and Grŵp Llandrillo Menai are the three pilot colleges working together as part of a national collaborative pilot project looking at allocation of workload for lecturing staff. 

The aim of the Workload Monitoring Project is to look at the totality of lecturers' workload. It is hoped that the pilot project will establish the cost implications of addressing excessive workloads and will allow for a bid for additional resources to be developed. The review is being carried out through social partnership, comprising the Joint Trade Unions, colleges, and the Welsh government, overseen by a steering group. The Steering Group will meet regularly throughout the project to monitor progress. 

The data collected in the pilot will feed into a report to Welsh Government and will be supplemented by qualitative research using interviews and focus groups. 

3. Wales TUC Black activists development programme

This programme for Black, Asian and Minority Ethnic workers will give you the confidence and key skills to influence your union structures.  

The programme starts on 13 March and will include several online and face-to-face sessions during 2023.  
 
Anyone who works or lives in Wales can apply to join the programme. Register today as a limited spaces are available.

Yn e-bost heddiw:

  1. Diweddariad ar Gyflog Addysg Bellach 
  2. Y Diweddaraf ar Lwyth Gwaith Chwefror 2023
  3. TUC Cymru Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du 

1. Diweddariad ar Gyflog Addysg Bellach 

Gyda biliau ynni yn codi i'r entrychion, costau bwyd a thanwydd yn cynyddu'n barhaus; a chwyddiant yn cyrraedd dros 12% ym mis Mai 2022, cyflwynodd Cyd-undebau Llafur Addysg Bellach Cymru gais ym mis Mai 2022 am 'codiad cyflog o 12% o leiaf ar bob graddfa eleni.  

Gwnaethom ddechrau'r negodiadau ac ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom gyrraedd sefyllfa amhosibl, a chytunodd colegau Addysg Bellach ac undebau llafur ar daliad atodol costau byw a chynnydd yn y gyfradd Cyflog Byw Gwirioneddol er mwyn sicrhau bod ein haelodau'n cael codiad cyflog atodol o 5% cyn y Nadolig. Gwnaed y taliad i staff colegau ym mis Rhagfyr 2022 a bydd yn parhau tan fis Ionawr 2023 ac yn amodol ar drafodaethau pellach â'r cyd-undebau llafur ym mis Ionawr 2023.

Cyfarfu'r Cyd-undebau Llafur Addysg Bellach â ColegauCymru ar 12 Ionawr i drafod cyflog. Gwnaeth y Cyd-undebau Llafur gais i CC am ymateb ffurfiol i'n hawliad cyflog ar gyfer 2022/2023.

Yn dilyn hynny, roedd disgwyl i ColegauCymru gyfarfod â Llywodraeth Cymru ar 23 Ionawr i drafod y cyllid ar gyfer unrhyw gynnig cyflog, ond mae'r cyfarfod hwn bellach wedi'i ohirio tan 31 Ionawr. Mae ColegauCymru wed cytuno i ysgrifennu atom gyda'r wybodaeth ddiweddaraf ar ôl y cyfarfod â Llywodraeth Cymru.Cyn gynted ag y bydd gennym gynnig sicr, byddwn yn trafod ein hymateb fel cyd-undebau llafur ac yn eich rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi cyn gynted â phosibl. 

Mae cyflog ôl-16 ym maes addysg bellach yn gysylltiedig â'r cyflog yn y sector addysg orfodol yng Nghymru. Cyhoeddwyd cynnig newydd i athrawon a wrthodwyd gan yr undebau ysgolion, ond mae trafodaethau'n parhau. Nid yw'n debygol y cytunir ar y cyflog ôl-16 ym maes addysg bellach hyd nes y caiff hyn ei ddatrys. Llwyth gwaith a chynnal cydraddoldeb cyflog yn y sector addysg orfodol yw blaenoriaeth Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru. Rydym yn ymwybodol bod aelodau yn gofyn; pam nad yw Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru mewn anghydfod â chyflogwyr. Mae Pwyllgor Addysg Bellach Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru yn ymrwymedig i ddatrys llwyth gwaith i aelodau ac mae Undebau, ColegauCymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Pe baem yn datgan anghydfod ar gyflog, gallem beryglu'r prosiect llwyth gwaith. Nid yw Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru mewn sefyllfa i ddatgan anghydfod na gweithredu ar gyflog ym maes Addysg Bellach gan nad ydym wedi cael ymateb ffurfiol i'n hawliad cyflog eto. 

Rydym hefyd wedi gofyn am ddiweddariad ar wyliau ychwanegol i staff cymorth fel rhan o'r hawliad 21/22 sy'n parhau i fod heb ei ddatrys.Mae graddfa gyflog staff cymorth, sy'n rhan o ddyfarniad cyflog 21/22 sydd heb gael ei benderfynu, yn arfaethedig yn dilyn adborth gan ColegauCymru ar eu canfyddiadau.

2. Y Diweddaraf ar Lwyth Gwaith Chwefror 2023

Cefndir 

Mae llwyth gwaith wedi bod yn flaenoriaeth ymgyrchu i Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru am y chwe blynedd diwethaf. Ers mis Mawrth 2021, mae'r undebau llafur academaidd wedi bod yn cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru a ColegauCymru i ddechrau mynd i'r afael â llwyth gwaith gormodol darlithwyr ym maes Addysg Bellach. Gwelwyd tystiolaeth o lwyth gwaith gormodol yn yr arolwg gweithlu a gynhaliwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg yn 2016 a 2021 a chan arolwg ar wahân a gynhaliwyd gan Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru yn 2015/16, a ganfu data tebyg iawn i ddata Cyngor y Gweithlu Addysg.Yng nghanlyniadau arolwg cenedlaethol gweithlu addysg 2021, codwyd pryderon am lwyth gwaith fel mater cyffredin. Ers hynny, mae'r grŵp llywio llwyth gwaith cenedlaethol (Cyd-undebau Llafur, ColegauCymru a Llywodraeth Cymru) wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.

Bellach mae'r grŵp am asesu'r cynnydd a wnaed hyd yma ac mae wedi gofyn i Gyngor y Gweithlu Addysg gwblhau'r arolwg hwn er mwyn helpu i fesur yr hyn sydd wedi'i gyflawni.

Os ydych yn ymarferydd addysg bellach neu'n ymarferydd dysgu seiliedig ar waith cofrestredig, neu'n aelod o staff cymorth busnes mewn coleg, gallwch gwblhau eich arolwg nawr. Am fersiwn Saesneg cliciwch yma.

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau'r arolwg yw Dydd Gwener 31 Mawrth 2023.

Trosolwg o'r prosiect llwyth gwaith

Roedd Camau 1 a 2 y prosiect yn cynnwys arolwg o ddarlithwyr a thrafodaeth gan y bartneriaeth gymdeithasol, i ganfod pa mor ormodol yw llwyth gwaith darlithwyr a'r rhesymau sylfaenol posibl dros hyn Fel rhan o Gam 2 lluniodd y Grŵp Llywio adroddiad a oedd yn nodi wyth thema i'w hystyried a chyfres o argymhellion i golegau eu hystyried ar y cyd â'u hundebau llafur lleol; Rhwydwaith HRD ColegauCymru; Cwricwlwm ColegauCymru a rhwydwaith Ansawdd; Pwyllgor Negodi Addysg Bellach Cymru a Llywodraeth Cymru. Un o'r argymhellion oedd y dylai Pwyllgor Negodi Addysg Bellach Cymru adolygu'r cytundeb llwyth gwaith yn ystod 2021-24 er mwyn lleihau llwyth gwaith a gwella llesiant.

Roedd Cam 3 y prosiect yn cynnwys pob coleg unigol yn adolygu'r materion llwyth gwaith lleol ac yn cytuno ar gynllun gweithredu lleol. Cyflwynwyd y cynlluniau hyn ym mis Ionawr 2022 ac maent wedi'u dadansoddi er mwyn nodi themâu cyffredin.

Mae Cam 4 y prosiect yn cynnwys pedair elfen, a'r ail elfen yw parhau â gwaith Pwyllgor Negodi Addysg Bellach Cymru i fynd i'r afael ag argymhellion Cam 2 - i'w roi ar waith o bosibl yn 2022-23. Dylai'r Pwyllgor: 
 
1. Adolygu'r cytundeb llwyth gwaith cenedlaethol er mwyn lleihau llwyth gwaith a gwella llesiant;a mynd i'r afael â'r angen i gynnig cyfleoedd i ddarlithwyr ddatblygu eu dysgu proffesiynol cydweithredol - drwy gytuno ar fodel dyrannu llwyth gwaith

Mae'r prosiect yn cynnwys cais am gyllid gan Lywodraeth Cymru i dreialu'r broses o roi'r cytundeb dyrannu llwyth gwaith diwygiedig drafft ar waith fel y nodir yn y Bartneriaeth Gymdeithasol Genedlaethol. Rydym yn gobeithio y caiff y cais ei gymeradwyo ym mis Chwefror a bydd y prosiect llwyth gwaith yn para am fwy na 15 mis gyda chyfnod monitro dyrannu o 12 mis a fydd yn para dros fydol blwyddyn academaidd gyfan 2023/24.

Y tri choleg peilot sy'n cydweithio fel rhan o'r prosiect peilot cydweithredol cenedlaethol sy'n ystyried dyraniad llwyth gwaith staff darlithio yw Grŵp Colegau Castell-nedd Port Talbot, Coleg Sir Benfro a Grŵp Llandrillo Menai.

Nod y Prosiect Monitro Llwyth Gwaith yw edrych ar gyfanswm llwyth gwaith darlithwyr. Y gobaith yw y bydd y prosiect peilot yn canfod goblygiadau cost mynd i'r afael â llwythi gwaith gormodol, fel y gellir datblygu cais am adnoddau ychwanegol. Cynhelir yr adolygiad drwy bartneriaeth gymdeithasol, sy'n cynnwys y Cyd-undebau Llafur, colegau a Llywodraeth Cymru, dan oruchwyliaeth grŵp llywio.Bydd y Grŵp Llywio yn cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol y prosiect i fonitro cynnydd.

Bydd y data a gesglir yn ystod y peilot yn bwydo i mewn i adroddiad i Lywodraeth Cymru a chânt eu hategu gan ymchwil ansoddol drwy ddefnyddio cyfweliadau a grwpiau ffocws.

3. TUC Cymru Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du

Bydd y rhaglen hon ar gyfer gweithwyr Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn rhoi'r hyder a'r sgiliau allweddol i chi ddylanwadu ar strwythurau eich undeb.  

Bydd y rhaglen yn dechrau ar 13 Mawrth a bydd yn cynnwys nifer o sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn ystod 2023.  

Gall unrhyw un sy'n gweithio neu'n byw yng Nghymru wneud cais i ymuno â'r rhaglen.

Cofrestrwch heddiw gan mai nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.  

In Solidarity / Mewn Undod

UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 18 October 2023