Fighting fund banner

 

Wales email - 04 December 2018 / E-bost Cymru - 4 Rhagfyr 2018

4 December 2018

In today's email:

  1. Wales pay & workload disputes 

  2. Consultative ballot on pay - update your membership 

1. Wales pay & workload disputes

Negotiators met with the employers' representatives on Wednesday, 28th November. ColegauCymru (CC) had submitted their revised pay offer a couple of hours before the meeting, the content of their letter is laid out in full below:

'The FE principals' forum, together with their finance colleagues have met today to agree an offer of settlement for the current pay dispute. On the basis of the additional funding provided by the Welsh Government our amended offer for the current academic year is a differentiated award set out as follows: 

Staff cohort increase 

  • All teaching grades up to and including main grade 6 lecturers 3.5%

  • Upper spine (UP 1 - 3) 2%

  • All staff on management contract (Excluding Senior Post Holders) 1.5%

  • Business support - (Salaries below £19,500) 4.5%

  • Business support - (Salaries above £19,501) 2% 

As you will be aware the proposed settlement is a recommendation to the individual college boards and will ultimately be for the colleges themselves to agree and implement. 

The settlement includes a decision to enter into workload negotiations should the pay award be accepted. Further negotiations will also need to address the pay award for 2019/20 and on that basis, we are not yet in a position to confirm a future award. I am keen to ask for your assistance, in genuine partnership, to address a range of pay related costs, including on the subject of workload to present the overall position for 2019/20 to the Welsh Government as early as 1st March 2019. 

I look forward to meeting with you both tomorrow where I will be happy to discuss this offer, the future of workload negotiations and the setting of a pay claim for 2019/20 in more detail.'

As a consequence of the offer on pay and workload, the negotiators agreed to suspend the strike action planned for the 4th December, to allow a special meeting of Wales further education sector committee (FESC) on Saturday 8 December to make decisions about the ballot timetable and the proposed action on Thursday 13 and Friday 14 December. 

The determination of members  to protect and improve pay and working conditions is paying off, thank you for all your efforts. 

You will receive a further update after the special FESC meeting on the Saturday 8 December.

2. Consultative ballot on pay - update your membership

Wales FESC agreed in October that if an offer from CC matched the schoolteachers increase, members would be balloted on whether to accept.

In light of the offer from CC, we will be undertaking a consultative ballot in the near future (dates to be agreed by FESC on 8 December). In the meantime we would urge you to update your membership information, so that you are included in the ballot.


Yn e-bost heddiw: 

  1. Anghydfodau Cyflog a Llwyth Gwaith yng Nghymru 
  2. Pleidlais Ymgynghorol ar Gyflog - Diweddaru eich cofnod aelodaeth 

1. Anghydfodau Cyflog a Llwyth Gwaith yng Nghymru

Gwnaeth y Trafodwyr gyfarfod â chynrychiolwyr y cyflogwyr ddydd Mercher, 28 Tachwedd. Cyflwynodd ColegauCymru (CC) eu cynnig cyflog diwygiedig ychydig oriau cyn y cyfarfod ac mae cynnwys eu llythyr wedi'i nodi'n llawn isod:
 
Mae'r Fforwm Penaethiaid AB, ynghyd â'i Gydweithwyr ym maes Cyllid, wedi cyfarfod heddiw i gytuno ar gynnig setliad ar gyfer yr anghydfod cyflog presennol. Ar sail y cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, dyfarniad gwahaniaethol yw ein cynnig diwygiedig ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol a nodir fel a ganlyn: 
 
Codiad cyflog fesul cohort staff 

  • Pob gradd addysgu hyd at ac yn cynnwys darlithwyr Prif Raddfa 6 3.5% 
  • Graddfa dâl uwch (UP 1 - 3) 2% 
  • Pob aelod o staff ar gontract Rheoli (Ac Eithrio Deiliaid Swyddi Uwch) 1.5% 
  • Cymorth busnes - (Cyflogau yn is na £19,500)4.5% 
  • Cymorth Busnes - (Cyflogau yn uwch na £19,501) 2%

Fel y gwyddoch, argymhelliad i Fyrddau'r colegau unigol yw'r setliad ac, yn y pen draw, y colegau eu hunain fydd yn cytuno arno a'i roi ar waith. 
 
Mae'r setliad yn cynnwys penderfyniad i ymuno â thrafodaethau llwyth gwaith os caiff y dyfarniad cyflog ei dderbyn. Bydd angen i drafodaethau pellach hefyd fynd i'r afael â'r dyfarniad cyflog ar gyfer 2019/20 ac, ar y sail honno, nid ydym mewn sefyllfa i gadarnhau dyfarniad ar gyfer y dyfodol eto. Rwy'n awyddus i ofyn i chi am eich cymorth, mewn partneriaeth wirioneddol, i fynd i'r afael ag amrywiaeth o gostau sy'n gysylltiedig â chyflog, gan gynnwys, mewn perthynas â llwyth gwaith cyflwyno'r sefyllfa gyffredinol ar gyfer 2019/20 i Lywodraeth Cymru mor gynnar ag 1 Mawrth 2019. 
 
Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi'ch dau yfory pan fyddaf yn fwy na pharod i drafod y cynnig hwn, dyfodol trafodaethau llwyth gwaith a'r broses o bennu hawliad cyflog ar gyfer 2019/20 yn fwy manwl.

 
O ganlyniad i'r cynnig ynghylch cyflog a llwyth gwaith, cytunodd y Trafodwyr i atal y streic a oedd wedi'i threfnu ar gyfer 4 Rhagfyr, er mwyn gallu cynnal cyfarfod arbennig o Bwyllgor y Sector Addysg Bellach yng Nghymru (FESC) ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr i wneud penderfyniadau ynglŷn â'r amserlen bleidleisio a'r cam gweithredu arfaethedig ar 13/14 Rhagfyr. 
 
Mae'r ffaith bod yr aelodau mor benderfynol o ddiogelu a gwella cyflogau ac amodau gwaith yn talu ar ei chanfed, felly diolch am eich holl ymdrechion. 
 
Byddwch yn cael diweddariad pellach ar ôl cyfarfod arbennig FESC ar 8 Rhagfyr.
 
2. Pleidlais Ymgynghorol ar Gyflog - Diweddaru eich cofnod aelodaeth

Cytunodd FESC Cymru ym mis Hydref, petai cynnig gan CC yn cyfateb i godiad cyflog yr athrawon ysgol y byddai'r aelodau'n pleidleisio p'un a ddylid ei dderbyn.

Yn sgil y cynnig gan CC, byddwn yn cynnal pleidlais ymgynghorol yn y dyfodol agos (dyddiadau i gael eu cytuno gan FESC ar 8 Rhagfyr). Yn y cyfamser, byddem yn eich annog i ddiweddaru eich gwybodaeth aelodaeth, fel eich bod yn cael eich cynnwys yn y bleidlais.

Best regards / Cofion gorau

UCU Wales / UCU Cymru

Last updated: 6 February 2019