Fighting fund banner

 

Wales email - 15 January 2019 / E-bost Cymru - 15 Ionawr 2019

15 January 2019

Happy New Year! Welcome to the first Tuesday email of 2019.

In today's email:

  1. HE ballot on pay & equality

  2. FE consultative ballot on the pay offer

  3. UCU Cymru's response to the consultation on the EWC's Code of Professional Conduct and Practice

  4. Cardiff University UCU prepare to fight compulsory redundancies 

  5. Check off - why change?

1. HE ballot on pay & equality 
Ballot opens today and will close on 22 February 2019.

2. FE consultative ballot on the pay offer
Apologies that this section has not been translated into Welsh, but the ballot closed on Friday and there has not been sufficient time to obtain translation.

The result of the UCU consultative ballot on the pay offer is as follows:
Turnout 55.7%
Do you accept the employer's revised pay offer?
Yes 70.4% 
No 29.6%

Results are still awaited from the consultative ballots being undertaken by the other joint trade unions before a final decision on whether the offer will be formally accepted/rejected.

3. UCU Cymru's response to the consultation on the EWC's Code of Professional Conduct and Practice
Read it here.
 
4. Cardiff University UCU prepare to fight compulsory redundancies
Members of UCU in Cardiff University are planning ahead to make sure they are able to challenge any compulsory redundancy notices which may be issued after the voluntary severance scheme closes in May. They are planning a statutory ballot over the failure of the employer to provide an assurance that there will be no compulsory redundancies, the ballot will open on 1st February and close on the 22nd February.
 
5. Check off - why change?
There are currently still 140 members paying their subscriptions by check off (deduction from salary) in Wales.

For some time now, UCU has been campaigning to encourage members who are paying by this method to swap to monthly direct debit (you can also pay by cheque on an annual basis).
 
Why are we encouraging members to swap? There are a number of reasons for this.

  • Anonymity - Your employer does not need to know you are a member of a trade union. They will know if you are required to report your participation in industrial action of course, but on a day to day basis, they would not normally be aware.  If you are paying subscriptions by Check Off, however, they automatically know you are a member.

  • Access to legal services - subscriptions for those paying by check off are submitted to UCU by the employer and there can be significant delays. This means that when we check your membership when an issue arises for which you are seeking advice, support and, potentially, legal services, we cannot quickly confirm that payments are up to date, which is a condition for accessing the legal scheme. Payments made directly to UCU are processed quickly and your subscriptions record is kept up to date.

  • Administrative fees for check off - The TU Act 2016 enables employers to charge a 'reasonable' administrative fee for processing union subscriptions paid by check off. Whilst the TU (Wales) Act 2017 currently reverses this in Wales, a change of government in Wales could see this altered. UCU would then be in a position where we could be charged by employers for processing and submitting members union subscriptions. As you can appreciate, it would be morally wrong to have to use members' subscriptions to pay employers for this process and as such would be unacceptable to UCU.

As a preparatory measure, UCU nationally no longer accepts check off as a payment method for new members and we are asking existing members to consider changing their payment method also.

Although check off has been primarily a payment method in HE, there are also some members in FE paying by this method, all of whom we are hoping will consider changing to a different method.

In 2019, we would like, with your help, to make Wales check off free and if you want to proceed, here is some guidance:

Thank you.


Blwyddyn Newydd Dda! Croeso i e-bost Dydd Mawrth cyntaf 2019.
 
Yn e-bost heddiw:

  1.  Pleidlais Addysg Uwch ar Dâl a Chydraddoldeb

  2. Ymateb UCU Cymru i'r ymgynghoriad ar God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg 

  3. UCU Prifysgol Caerdydd yn paratoi i frwydro yn erbyn diswyddiadau gorfodol 

  4. Didynnu drwy'r Gyflogres - Pam Newid?

1. Pleidlais Addysg Uwch ar Dâl a Chydraddoldeb 
Agorodd y bleidlais ddoe a bydd yn cau ar 22 Chwefror 2019. 
 
2. Ymateb UCU Cymru i'r ymgynghoriad ar God Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg 
Darllenwch ef fan hyn.
 
3. UCU Prifysgol Caerdydd yn paratoi i frwydro yn erbyn diswyddiadau gorfodol
Mae aelodau o UCU ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynllunio ymlaen llaw er mwyn sicrhau eu bod yn gallu herio unrhyw hysbysiadau diswyddo gorfodol a allai gael eu dosbarthu ar ôl i'r cynllun diswyddo gwirfoddol ddod i ben ym mis Mai. Maent yn cynllunio pleidlais statudol dros fethiant y cyflogwr i roi sicrwydd na fydd unrhyw ddiswyddiadau gorfodol. Bydd y bleidlais yn agor ar 1 Chwefror ac yn cau ar 22 Chwefror.
 
4. Didynnu drwy'r Gyflogres - Pam Newid?
Ar hyn o bryd mae 140 o aelodau yn parhau i dalu eu tanysgrifiadau drwy ddidynniadau o'r gyflogres yng Nghymru.

Am beth amser bellach, mae UCU wedi bod yn ymgyrchu i annog aelodau sy'n talu drwy'r dull hwn i newid i Ddebyd Uniongyrchol misol (gallwch hefyd dalu drwy siec yn flynyddol).

Pam rydym yn annog aelodau i newid? Mae nifer o resymau am hyn

  • Anhysbysrwydd - Nid oes angen i'ch cyflogwr wybod eich bod yn aelod o undeb llafur. Bydd yn gwybod os bydd angen i chi roi gwybod eich bod yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol wrth gwrs ond, o ddydd i ddydd, ni fyddai'n ymwybodol fel arfer. Os ydych yn talu tanysgrifiadau drwy ddidyniadau o'r gyflogres, fodd bynnag, bydd yn gwybod yn awtomatig eich bod yn aelod.

  • Mynediad at Wasanaethau Cyfreithiol - Caiff tanysgrifiadau i'r rhai sy'n talu drwy ddidyniadau o'r gyflogres eu cyflwyno i UCU gan y cyflogwr a gall fod oedi sylweddol. Mae hyn yn golygu, pan fyddwn yn gwirio eich aelodaeth pan fydd mater yn codi y byddwch yn ceisio cyngor, cymorth ac, o bosibl, wasanaethau cyfreithiol yn ei gylch, na fyddwn yn gallu cadarnhau'n gyflym bod y taliadau'n gyfredol, sydd yn amod ar gyfer cael mynediad at y Cynllun Cyfreithiol. Caiff taliadau a wneir yn uniongyrchol i UCU eu prosesu'n gyflym a chaiff eich cofnod tanysgrifiadau ei ddiweddaru.

  • Costau gweinyddol ar gyfer didyniadau o'r gyflogres - Mae Deddf yr Undebau Llafur 2016 yn galluogi cyflogwyr i godi tâl gweinyddol 'rhesymol' am brosesu tanysgrifiadau undeb a delir drwy ddidyniadau o'r gyflogres. Er bod Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn gwrthdroi hyn ar hyn o bryd yng Nghymru, gall newid llywodraeth yng Nghymru newid hyn. Byddai UCU wedyn mewn sefyllfa lle y gallai cyflogwyr godi tâl arnom am brosesu a chyflwyno tanysgrifiadau aelodau i'r undeb. Fel y gallwch werthfawrogi, byddai'n foesol anghywir gorfod defnyddio tanysgrifiadau aelodau i dalu cyflogwyr am y broses hon ac, o ganlyniad, byddai hyn yn annerbyniol i UCU.

Fel mesur paratoadol, nid yw UCU yn genedlaethol yn derbyn didyniadau o'r gyflogres fel dull o dalu ar gyfer aelodau newydd mwyach ac rydym yn gofyn i aelodau presennol ystyried newid eu dull o dalu hefyd.
 
Er bod didyniadau o'r gyflogres gan fwyaf wedi bod yn ddull o dalu o fewn Addysg Uwch, mae rhai aelodau sydd mewn Addysg Bellach hefyd yn defnyddio'r dull hwn i dalu, ac rydym yn gobeithio y byddant oll yn ystyried newid i ddull gwahanol.
 
Yn 2019, hoffem, gyda'ch help chi, gael gwared ar ddidyniadau o'r gyflogres yng Nghymru ac os hoffech fwrw ymlaen â hyn, dyma rywfaint o arweiniad:

Diolch.

Best regards / Cofion gorau
UCU Wales / UCU Cymru

Last updated: 6 February 2019