Fighting fund banner

 

Wales email - 5 February 2019 / E-bost Cymru - 5 Chwefror 2019

5 February 2019

In today's email:

  1. FE workload dispute

  2. HE ballot on pay & equality

  3. Cardiff University UCU ballot on no compulsory redundancies

  4. Political update

  5. Wales FE national agreements

1. FE workload dispute

  • The  FE sector committee met on Saturday 26 January. There was concern expressed about the delay in negotiations on workload, and in view of what happened with  ColegauCymru (CC) and the workload negotiations at the start of last year, it was agreed that if CC had not entered into meaningful consultation with UCU on the five demands tabled in respect of Workload by 15 February 2019, we would notify of our intention to take industrial action in February/March 2019. We are currently looking at payroll dates, so that we can spread the deductions from any escalating industrial action over the two pay packets.

  • Whilst we hope it will not be necessary, we cannot allow CC to renege on the agreement to negotiate on workload a second time; so we need to be prepared.

2. HE ballot on pay & equality

  • The ballot closes on 22 February 2019, so you still have time to vote. If you haven't received, or have lost your ballot paperwork, you can request a replacement using this online form.

  • The (Anti) TU Act means that we need at least 50% of those eligible to vote to turn out and vote, if the ballot is to succeed. Every vote COUNTS and YOUR vote could be the one that makes the difference.

3. Cardiff University UCU - Ballot on no compulsory redundancies
The ballot is now open.  If you haven't received your ballot paper by 7th February, contact the UCU Wales office. You will need to provide your membership number or DOB in order for us to locate your membership record and arrange for a ballot paper/duplicate ballot paper to be issued.

4. Political update

  • Wales has a new First Minister, Mark Drakeford, who has a University background and already we have seen the impact of his understanding of the sector, he has brought teaching and research back under one ministerial portfolio, sense does prevail sometimes!

  • We are now looking at 2023 for the establishment of the new post-16 commission for education and training. Higher Education Funding Council for Wales (HEFCW) are already heavily involved in discussing the sequencing and phasing of the changes prior to draft legislation being finalised and tabled in the National Assembly.

  • The devolution of school teachers pay and conditions has now taken place and the Government has decided to establish a Welsh Teachers Pay Review Body. The remit is with the minister for sign off.

5. Wales FE national agreements
Just a reminder that you can find all the Wales FE National Agreements here.


Yn e-bost heddiw:

  1. Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach

  2. Pleidlais Addysg Uwch ar Dâl a Chydraddoldeb

  3. Pleidlais UCU Prifysgol Caerdydd ar atal diswyddiadau gorfodol

  4. Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Wleidyddiaeth

  5. Cytundebau Cenedlaethol Addysg Bellach Cymru

1. Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach 

  • Cyfarfu'r Pwyllgor Sector Addysg Bellach ddydd Sadwrn 26 Ionawr. Mynegwyd pryder ynghylch yr oedi mewn trafodaethau am Lwyth gwaith, ac o ystyried yr hyn a ddigwyddodd â ColegauCymru (CC) a'r trafodaethau llwyth gwaith ar ddechrau y llynedd, cytunwyd os na fyddai CC wedi dechrau cynnal ymgynghoriad ystyrlon ag UCU ynglŷn â'r pum galw a gyflwynwyd mewn perthynas â Llwyth gwaith erbyn 15 Chwefror, byddem yn hysbysu ein bwriad i gymryd camau gweithredu diwydiannol ym mis Chwefror/Mawrth. Rydym wrthi'n edrych ar ddyddiadau cyflogres, fel y gallwn rannu'r didyniadau o unrhyw gamau gweithredu diwydiannol cynyddol dros y ddau becyn cyflog.

  • Er ein bod yn gobeithio na fydd hyn angen gwneud hyn, ni allwn ganiatáu i CC dorri'r cytundeb i drafod y llwyth gwaith am yr eildro; felly mae angen i ni fod yn barod. 

2. Pleidlais Addysg Uwch ar Dâl a Chydraddoldeb

  • Mae'r bleidlais yn cau ar 22 Chwefror, felly mae amser gennych i bleidleisio o hyd. Os nad ydych wedi cael eich gwaith papur pleidleisio, neu os ydych wedi'i golli, gallwch ofyn am un arall gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein hon.

  • Mae'r Ddeddf Undebau Llafur (Gwrthwynebu) yn golygu, er mwyn i'r bleidlais lwyddo, y bydd angen i o leiaf 50% o'r rhai hynny sy'n gymwys i bleidleisio fynd a gwneud hynny. Mae pob un bleidlais yn CYFRIF ac efallai mai eich pleidlais CHI fydd yr un sy'n gwneud gwahaniaeth. 

3. UCU Prifysgol Caerdydd - Pleidlais ar atal diswyddiadau gorfodol 
Mae'r bleidlais bellach ar agor. Os nad ydych wedi cael eich papur pleidleisio erbyn 7 Chwefror, cysylltwch â Swyddfa UCU Cymru. Bydd angen i chi roi eich Rhif Aelodaeth neu eich Dyddiad Geni er mwyn i ni allu cael gafael ar eich cofnod aelodaeth a threfnu i bapur pleidleisio/papur pleidleisio dyblyg gael ei gyflwyno.

4. Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Wleidyddiaeth

  • Mae gan Gymru Brif Weinidog newydd, Mark Drakeford, sydd â chefndir Prifysgol ac rydym eisoes wedi gweld effaith ei ddealltwriaeth o'r sector, ac mae wedi cyfuno addysgu a gwaith ymchwil yn ôl o dan un portffolio gweinidogol, felly mae synnwyr cyffredin yn drech weithiau! 

  • Rydym bellach yn edrych ar 2023 ar gyfer sefydlu'r Comisiwn ôl-16 newydd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant. Mae gan Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) eisoes ran fawr yn y gwaith o drafod y broses o drefnu ac amseru'r newidiadau cyn i ddeddfwriaeth ddrafft gael ei chwblhau a'i chyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol.

  • Mae datganoli cyflog ac amodau athrawon eisoes ar waith ac mae'r Llywodraeth wedi penderfynu sefydlu Corff Adolygu Cyflog Athrawon Cymru. Mae gan y gweinidog y cylch gwaith i'w gymeradwyo.

5. Cytundebau Cenedlaethol Addysg Bellach Cymru
Cofiwch y gallwch ddod o hyd i holl Gytundebau Cenedlaethol Addysg Bellach Cymru yma.

Last updated: 6 February 2019