Fighting fund banner

 

UCU Wales email 13 July 2021 / E-bost Cymru: 13 Gorffennaf 2021

13 July 2021

In today's email 

  1. Accessing financial (strike pay) or legal support from UCU
  2. FE workload - Wales official's report from special meeting of Wales FESC on 3 July 2021

1. Accessing financial (strike pay) or legal support from UCU 

Please remember that if you need to access either strike pay or legal support, your ability to do so will be dependent on you being in the right subs category in relation to all your annual earnings. If you are paying the incorrect amount, you will not be able to access this support.

2. FE workload - Wales official's report from special meeting of Wales FESC on 3 July 2021

A special further education sector conference (FESC) was convened on Saturday 3 July to discuss the progress with the workload project with the Welsh government and the college principals. Delegates for all colleges, with the exception of Merthyr and GLLM were present to hear the Wales official feedback on the report form phase two and listen to the feedback from college reps about their engagement on the recommendations at a local level. The next meeting of the workload steering group will be 7 July and the wording for the phase three part of this project in on the agenda. 

It was clear from branch reports that despite two EWC surveys, nearly five years apart, that the principals STILL do not believe that lecturers are overworked to the extent that is reported. This does not bode will for the success of this project. The JTUs have tabled amendments to the project proposal for phase three and FESC decided that, if those proposals were not accepted by the college Principals, we would bring the matter back to FESC and that UCU involvement in the project would be put on hold until FESC had a chance to consult membership. 

It is obvious that some principals think that if we tinker round the edges with admin stuff, then there will be sufficient space within your contracted hours to make the changes necessary to move to blended learning and to engage in professional leaning and address the digital 2030 agenda. Clearly there may be an argument to engage on the governance agenda in college again - you'd think that after all the governance reviews we'd get to a place where our institutions are horizon planning and making sure that their HR strategies were fit for the 21 century, aligning them so they can address the agenda of this current Welsh government- apparently not!! 

Looks like our optimism about getting workload sorted was misplaced.

In solidarity

UCU Wales 

Annwyl

Yn e-bost heddiw

  1. Cael cymorth ariannol (Tâl Streic) neu gymorth cyfreithiol gan UCU
  2. Llwyth Gwaith Addysg Bellach - Adroddiad Swyddog Cymru o'r Cyfarfod Arbennig o Bwyllgor y Sector Addysg Bellach (FESC) yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2021 

1. Cael cymorth ariannol (Tâl Streic) neu gymorth cyfreithiol gan UCU 

Cofiwch os bydd angen i chi gael Tâl Streic neu gymorth cyfreithiol, bydd eich gallu i wneud hynny yn dibynnu ar fod yn y categori tanysgrifio cywir o ystyried eich holl enillion blynyddol. Os nad ydych yn talu'r swm cywir, ni fyddwch yn gallu cael y cymorth hwn. 

2. Llwyth Gwaith Addysg Bellach - Adroddiad Swyddog Cymru o'r Cyfarfod Arbennig o Bwyllgor y Sector Addysg Bellach (FESC) yng Nghymru a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2021 

Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o FESC ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf er mwyn trafod hynt y Prosiect Llwythi Gwaith â Llywodraeth Cymru a phenaethiaid y colegau. Roedd cynrychiolwyr yr holl golegau, heblaw am Goleg Merthyr Tudful a Grŵp Llandrillo Menai, yn bresennol i glywed adborth Swyddog Cymru ar yr adroddiad ar gam 2 ac i wrando ar yr adborth gan gynrychiolwyr y colegau ar y gwaith ymgysylltu a wnaed ganddynt ar sail yr argymhellion ar lefel leol. Cynhelir cyfarfod nesaf y Grŵp Llywio Llwythi Gwaith ar 7 Gorffennaf, ac mae'r geiriad ar gyfer cam tri o'r prosiect hwn yn ymddangos fel eitem ar yr agenda. 

Roedd yn amlwg o adroddiadau'r canghennau, er gwaethaf dau arolwg a gynhaliwyd gan Gyngor y Gweithlu Addysg gyda bron i bum mlynedd rhyngddynt, nad yw'r penaethiaid yn credu O HYD fod darlithwyr wedi'u llethu gan waith i'r graddau a nodir. Nid yw hyn yn argoeli'n dda ar gyfer llwyddiant y prosiect hwn. Mae'r Cyd-undebau Llafur wedi cyflwyno diwygiadau i gynnig y prosiect ar gyfer cam tri, a phenderfynodd FESC, os na fydd penaethiaid y colegau yn derbyn y cynigion hynny, y byddem yn codi'r mater â FESC eto, ac y byddai cyfranogiad UCU yn y prosiect yn cael ei ohirio tan ar ôl i FESC gael cyfle i ymgynghori â'r aelodau. 

Mae'n amlwg bod rhai o'r penaethiaid o'r farn os byddwn yn gwneud mân newidiadau i drefniadau gweinyddol, yna y bydd digon o gyfleoedd o fewn eich oriau contract i wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn symud i ddysgu cyfunol yn ogystal â chymryd rhan mewn dysgu proffesiynol a mynd i'r afael ag agenda digidol 2030. Yn amlwg, gellid dadlau y dylid trafod yr agenda llywodraethu yn y colegau eto. Ond ar ôl yr holl adolygiadau o lywodraethu a gynhaliwyd, oni ddylem fod wedi cyrraedd pwynt lle mae ein sefydliadau yn cynllunio at y dyfodol ac yn sicrhau bod eu strategaethau AD yn addas ar gyfer y 21ain ganrif, gan eu cysoni er mwyn iddynt allu mynd i'r afael ag agenda bresennol Llywodraeth Cymru - ond yn amlwg nid yw hynny'n wir! 

Mae'n debyg mai ofer oedd ein gobeithion y câi'r mater llwythi gwaith ei ddatrys. 

Mewn undod 

UCU Cymru

Last updated: 6 August 2021