Fighting fund banner

 

E-bost Cymru: 16 Chwefror 2021 / Wales email: 16 February 2021

16 February 2021

Yn e-bost heddiw:

  1. Canllawiau newydd gan Lywodraeth ar gyfer Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith

  2. Digwyddiad Rhwydwaith Trawsnewid Gwyrdd Cymru

  3. Diweddariad Llwyth Gwaith Addysg Uwch

  4. AB - Cyngor y Gweithlu Addysg - Arolwg y gweithlu addysg cenedlaethol yng Nghymru.

1. Canllawiau newydd gan Lywodraeth ar gyfer Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith
Rydym wedi parhau i weithio gyda chyflogwyr a'r Cyd-Undebau Llafur i lunio canllawiau a phrotocolau priodol ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel ar ôl hanner tymor. Ar adeg ysgrifennu'r e-bost hwn, mae'r canllawiau ar fin cael eu cadarnhau, ond nid yw'r diwygiadau i'r Protocolau ar y Cyd wedi'u trafod eto. Mae'r sgyrsiau hyd yma wedi bod yn adeiladol, ac maent yn seiliedig ar staff yn gwirfoddoli i ddychwelyd i'r gwaith ar ôl hanner tymor er mwyn galluogi eu myfyrwyr i sefyll unrhyw asesiadau angenrheidiol, fel y gallant symud ymlaen i gyrsiau addysg bellach neu'r gweithle. Mae'r amserlen yn cael ei thrafod â'r Cyd-Undebau Llafur ar lefel genedlaethol a byddwn yn sicrhau y caiff yr holl benderfyniadau eu rhannu â swyddogion cyn gynted ag y cânt eu gwneud.

2. Digwyddiad Rhwydwaith Trawsnewid Gwyrdd Cymru
Dros y degawd nesaf, rydym yn rhagweld y bydd yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar ein bywydau proffesiynol. Er mwyn sicrhau bod y trawsnewidiad hwn yn deg, mae'r Undeb Colegau a Phrifysgolion yn cydweithio'n agos â TUC Cymru i lywio adferiad gwyrdd a thrawsnewidiad cyfiawn; gan feithrin cryfder yn ein gweithleoedd a rhyddhau'r arbenigedd sy'n bodoli yn ein sefydliadau.

Byddwn yn cynnal Digwyddiad Rhwydwaith Trawsnewid Gwyrdd Cymru ddydd Gwener, 26 Chwefror am 14:00, a hoffem wahodd actifyddion cangen, aelodau a staff academaidd i ymuno â ni. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i amseru i ddilyn lansiad Pecyn Cymorth 'Gweithle Gwyrddach ar gyfer Trawsnewidiad Cyfiawn' TUC Cymru ar 10 Chwefror, a ph'un a ydych yn addysgu mewn Coleg neu Brifysgol, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i chi ystyried sut y gallwch wreiddio agenda trawsnewidiadau cyfiawn yn y gweithle.

  • Dysgu - gan gynrychiolwyr yr Undeb Prifysgolion a Cholegau sydd eisoes yn mynd ar drywydd y gwaith hwn

  • Rhannu - eich profiadau, eich llwyddiannau a'ch heriau eich hun

  • Rhwydwaith - cael eich ysbrydoli a'ch cefnogi i sicrhau newid

  • Mynediad - hyfforddiant, cyngor a datblygiad proffesiynol parhaus

  • Felly, dilynwch y ddolen i gymryd rhan ac edrychwn ymlaen at eich gweld yno! Cliciwch yma i ymuno â'r cyfarfod.

3. Diweddariad Llwyth Gwaith Addysg Uwch
Mae UCU Cymru yn cynnig cyfle i aelodau ym maes Addysg Uwch fynychu sesiwn briffio llwyth gwaith ar-lein. Cynhelir y sesiwn briffio 90 munud ar Teams ddydd Mercher 10 Mawrth am 2.00pm.Yn ystod y sesiwn briffio, byddwn yn ystyried materion yn ymwneud â llwyth gwaith a modelau llwyth gwaith gwahanol, ac yn trafod ffyrdd o ddelio â llwythi gwaith gormodol yn eich gweithle. Os ydych yn teimlo eich bod yn gweithio oriau gormodol, byddwn yn dweud wrthych am yr adnoddau y gallwch eu defnyddio i ddangos tystiolaeth o lwyth gwaith gormodol a'ch helpu i wrthod pwysau gormodol.

Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i chi drafod yr effaith y mae Covid-19 wedi ei chael ar eich llwyth gwaith a'r cysylltiad rhwng llwyth gwaith ac iechyd a diogelwch.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu'r sesiwn, anfonwch e-bost at Phil Markham er mwyn cofrestru eich diddordeb.

Rydym yn rhagweld y bydd galw mawr ar gyfer y sesiwn hon, felly ni allwn warantu y bydd lle i bawb a byddwn yn cofrestru aelodau ar sail y cyntaf i'r felin.

4. AB - Cyngor y Gweithlu Addysg - Arolwg y gweithlu addysg cenedlaethol yng Nghymru.
Mae eich gwaith yn hollbwysig i sicrhau bod gennym y system addysg orau bosibl yng Nghymru. Yn ogystal â deall rhai o sgil-effeithiau pandemig Covid-19, hoffem glywed eich barn am faterion sy'n effeithio arnoch megis llwyth gwaith, llesiant a'r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer dysgu proffesiynol.

Mae eich llais yn bwysig i UCU, a thrwy gwblhau'r arolwg, byddwch yn ein helpu i'ch cefnogi yn eich rôl a sicrhau y gall ein dysgwyr fwynhau addysg o'r radd flaenaf. Bydd canlyniadau'r arolwg hwn yn llywio darn ehangach o waith i adolygu llwyth gwaith darlithwyr, felly po fwyaf o fanylion rydych yn eu rhoi, y mwyaf tebygol y byddant o fudd i lywio camau gweithredu a gwelliannau ymarferol.

Agorodd yr arolwg ddydd Gwener 15 Ionawr a bydd ar agor tan Dydd Gwener 12 Mawrth 2021.

Mewn undod
UCU Cymru


In today's email:

  1. New WG guidance for FE and WBL

  2. Wales green transitions network event

  3. HE - workload update

  4. FE - Education Workforce Council - The national education workforce survey for Wales

1. New WG guidance for FE and WBL
We have continued to work with CC and JTUs to get the appropriate guidance and protocols for a safe return to work after the half term. At the time of writing the guidance is about to be finalised, but the revision to the Joint Protocols has yet to be discussed. The conversations thus far have been constructive and are based on staff volunteering to return to work after half term to allow their students to sit any necessary assessments, in order to progress onto further education courses or to the workplace. The scheduling is being discussed with JTUs at a national level and we will make sure that all decisions are shared with branch officers as soon as they are made.

2. Wales green transitions network event
During the next decade, we foresee the climate emergency impacting upon our professional lives. To ensure that this transition is fair, UCU is working closely with TUC Wales to drive a green recovery and a just transition; building strength in our workplaces and liberating the expertise that sits in our institutions.

We are holding a Wales green transitions network event on Friday 26 February at 14:00 and would like to invite branch activists, members and academic staff to attend. Timed to closely follow the 10 February launch of Wales TUC's 'greener workplaces for a just transition' toolkit, whether you teach in a college or university setting, this event will give you the opportunity to explore how you can root a just transitions agenda in the workplace.

  • Learn - from UCU reps who are already taking this work forward

  • Share - your own experiences, successes and challenges

  • Network - be inspired and supported to make the change happen

  • Access - training, advice and continuing professional development

  • So please use this link to participate and we will look forward to seeing you there! Click here to join the meeting.

3. HE - workload update
UCU Wales are offering members in HE the opportunity to attend an online workload briefing session. The 90 minute briefing session will be held on Teams on Wednesday 10 March at 14:00. During the briefing session, we will explore issues around workload, consider different workload models and discuss ways of dealing with excessive workloads in your workplace. If you think you may be working excessive hours, we will provide you with an insight into tools that you can use to evidence excessive workload and help you push back on excessive demands.

It will also provide an opportunity to talk about how Covid-19 has impacted on your workload and the link between workload and health and safety.

If you are interested in attending the session please email Phil Markham to register your interest.

We are anticipating high demand so we are unable to guarantee everyone a place and we will be registering members on a 'first come, first serve' basis.

4. Education Workforce Council - the national education workforce survey for Wales
The work that you do is absolutely vital to ensuring we have the best education system possible in Wales. As well as understanding some of the impacts of the Covid-19 pandemic, we want to hear what you think about issues that affect you such as workload, wellbeing and the opportunities available for professional learning.

Your voice is important to UCU, by responding, you will help us to support you in your role and ensure that our learners can enjoy an education that is of the highest standard.  The results of this survey will inform a wider piece of work to review the workload of lecturers, so the more specific your feedback, the more likely it is to help inform practical actions and improvements.

The survey opened on Friday 15 January and will be open until Friday 12 March 2021.

In solidarity
UCU Wales

Last updated: 17 February 2021