Fighting fund banner

 

Mae pob pleidlais yn cyfrif / Every vote counts in your ballot

5 March 2020

UCU general secretary Jo Grady writes to members in FE urging them vote in the current workload ballot.

Rwy'n ysgrifennu atoch o bencadlys yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) i'ch annog i gymryd rhan yn eich pleidlais ddiwydiannol ar lwythi gwaith os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, a phleidleisio IE dros weithredu diwydiannol ac IE dros gamau gweithredu nad ydynt yn cynnwys streic.

Os ydych wedi colli eich papur neu os nad ydych wedi'i dderbyn, gallwch archebu un arall drwy anfon e-bost at Karen Williams gan nodi eich enw, cyfeiriad a'ch rhif aelodaeth.

Mae pob pleidlais yn cyfrif

Mae pob pleidlais yn cyfrif gan ei bod yn bleidlais gyfunol. Mae hynny'n golygu bod angen i o leiaf 50% o aelodau bleidleisio, neu ni fydd unrhyw un o'r colegau dan sylw yn gallu cymryd camau gweithredu diwydiannol. Hyd yn oed os ydych yn credu bod digon o gydweithwyr yn eich sefydliad wedi pleidleisio, mae angen i chi bleidleisio o hyd er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan. Fel arall, ni fyddwn yn gallu bygwth cymryd camau gweithredu diwydiannol na dylanwadu ar drafodaethau.

Cymryd camau i sicrhau llwyth gwaith tecach

Rydym yn ceisio gwella eich cytundeb cenedlaethol ar lwythi gwaith. Mae arolygon staff wedi dangos bod llwythi gwaith wedi dwysáu yn sylweddol yn eich sector: llawer o ddyletswyddau gweinyddol newydd, dim digon o amser i baratoi a marcio a gormod o waith ychwanegol i gyrraedd safonau a osodir gan Estyn. Nid oes digon o amser i sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith nac i roi'r cymorth sydd ei angen ar eich myfyrwyr.

Peidiwch â gwrando ar bobl sy'n dweud wrthych ei fod yn amhosibl ennill anghydfod fel hwn. Ymwelais â'ch cydweithwyr dros y ffin yng Ngholeg Nottingham sawl gwaith y llynedd. Cafodd cannoedd o aelodau o'r staff yno eu gorfodi i lofnodi contractau newydd a ddwysaodd eu llwyth gwaith yn sylweddol. Fodd bynnag, ar ôl dechrau anghydfod a sicrhau bod nifer dda iawn o bobl yn cymryd rhan yn y bleidlais ddiwydiannol, gwnaethant lwyddo yn y pen draw i wrthdroi'r newidiadau andwyol a oedd yn cael eu gosod arnynt.

Peidiwch â chymryd eich cytundeb cenedlaethol yn ganiataol

Yr hyn sy'n gwneud eich anghydfod yn arbennig yw'r ffaith ei fod yn ymwneud â chytundeb cenedlaethol yn hytrach na chytundeb lleol. Mae undebau wedi brwydro'n ddiwyd i ennill cytundebau sy'n cwmpasu pob sefydliad yn y wlad ac sy'n codi'r safonau i bob aelod o staff, ac mae'r cytundeb hwn yn un ohonynt. Nid oes gan eich cydweithwyr yn Lloegr gytundebau tebyg i hyn, felly maent ar drugaredd cyflogwyr unigol a all gynyddu eu llwyth gwaith mewn ffordd unochrog a mympwyol. Peidiwch â chymryd eich cytundeb cenedlaethol yn ganiataol - cymerwch gamau i'w gadw mor gryf ac effeithiol â phosibl.

Rydym yn ennill ymgyrchoedd ar lwythi gwaith ledled y DU a byddwn wrth fy modd pe baech yn rhan o hynny - ond dim ond drwy gymryd rhan yn y bleidlais hon y gallwch wneud hynny.

Jo Grady
Ysgrifennydd Cyffredinol UCU
 



I'm writing from UCU headquarters to urge you to post your vote in your industrial ballot on workload if you haven't already, and vote YES for industrial action and YES for action short of a strike.

If you have lost or not received your paper, please order a replacement by emailing Karen Williams with your name, address, and membership number.

Every vote counts

Every vote counts in this ballot because it is an aggregated ballot. That means that overall turnout needs to be at least 50%, or none of the colleges involved will be able to take industrial action. Even if you think enough colleagues in your institution have voted, you still need to vote to make sure that overall turnout is as high as possible. If not, we will have no ability to threaten industrial action and no leverage in negotiations.

Take action for a fairer workload

What we're trying to achieve is an improvement to your national agreement on workload. We know from staff surveys how bad workload intensification is in your sector: lots of new admin duties, insufficient time for prep and marking, too much jumping through hoops to meet standards imposed by Estyn. Not enough time to have a good work-life balance or give your students the support they need.

If people tell you it's not possible to win a dispute like this, don't listen to them. Last year I paid a couple of visits to your colleagues across the border at Nottingham College. Hundreds of staff there had been forced to sign new contracts that significantly intensified their workload. But after entering into dispute and getting an impressive turnout in their industrial ballot, they eventually managed to overturn the detrimental changes that were being imposed on them.

Don't take your national agreement for granted

What makes your dispute special is that it's about a national agreement, not a local one. Unions have fought hard to win agreements that cover every institution in the country and raise the bar for all staff, and this is one of them. Your colleagues in England don't have agreements like this, so they are at the mercy of individual employers who can increase their workload unilaterally and on a whim. Don't take your national agreement for granted - take action to keep it as strong and effective as possible.

We are winning workload campaigns throughout the UK and I would love for you to be part of that - but it will only be possible if you vote in this ballot.

Jo Grady
UCU general secretary

Last updated: 6 March 2020