Fighting fund banner

 

E-bost Cymru: 15 Ionawr 2020 / Wales email: 15 January 2020

15 January 2020

In today's email:

  1. Wales further education (FE) workload dispute; preparing to get the vote out (GTVO)
  2. Goodbye to Wales policy and communications officer Bethan Winter

1. FE Wales national workload dispute

Workload has been an issue for our members for some time. As you will recall, we entered a dispute with the employers at the end of 2017 and we balloted for industrial action in January 2018.

Following the ballot result, the principals' representative body, ColegauCymru (CC) offered to negotiate on workload if the joint trade unions withdrew the dispute. Acting in good faith, the JTU's withdrew the dispute, but CC later reneged on the agreement, which led to us balloting members again in September 2018. The turnout for the ballot was 53.8%, with 90.1% voting YES to industrial action.

ColegauCymru, although firstly refusing to discuss workload until the pay dispute that was running concurrently was settled, finally agreed to talk about workload and agreed to fully costing the changes to the workload agreement and making a joint approach to the education minister to secure that funding. However, when the information was ready, CC said they were unable to sign the letter drafted by the Wales official to make a joint approach to the minister.

Workload surveys carried out by UCU and the Education Workforce Council (EWC) on behalf of the Welsh government were very clear about the additional, unpaid hours most of you are working in order to get the job done properly, so CC are fully aware that many of you are struggling with unmanageable workloads. It makes their behaviour and delaying tactics all the more unacceptable. The solution to these issues will require additional funding from the Welsh government if improvements in workload are not going to be traded against redundancies across the sector. Your branch representatives took a decision at the Wales further education sector committee (FESC) in October 2019 to close down the UCU dispute to allow a joint trade union (JTU) claim on workload to be discussed and agreed with our sister unions in Wales.

A new claim will be presented to ColegauCymru covering:

  • a reduction in the maximum weekly teaching hours from 24 to 21
  • a consequential reduction in the maximum annual teaching hours
  • an increase in the amount of preparation and marking time from 20 minutes to 30 minutes for every hour of teaching.

It is the intention of the JTUs to table the claim by the end of January 2020. At the same time as tabling the claim we are running a statutory ballot for strike action to allow us to move quickly to industrial action when the employers refuse to address our claim. This could be our last chance to deliver on the reductions in lecturer's workload everyone so desperately needs for their own health and well-being in addition to maintaining the high standard of teaching across the FE sector in Wales. 

Your union needs you!

We need members from every department to volunteer to help out during our industrial action ballot to ensure that we achieve a minimum 50% turnout (the legal threshold required under the Trade Union Act). I cannot emphasise enough how critical it is to achieve a big turnout in our ballot and that is why we are asking for your help. This link will take you to more information about how to get the vote out (GTVO) but please don't be intimidated by this as it's a guide designed for branch officers and organising coordinators. 

What can you do to help?

As soon as the ballot opens we need as many volunteers as possible to get involved by speaking to members in their department about the dispute and importance of voting yes in the ballot. We need members to hand out leaflets and literature. 

If you are willing to help out please contact your local branch reps or email us to let us know that you are willing to help out. Provide you name department and contact telephone number and someone will make contact to explain in more detail what you can do to help.

We are also asking every member to go online to your membership record here and make sure that the data we hold is accurate. Finally, vote YES in the ballot #WorkloadMatters #ItsTimeFor21 

2. Goodbye to Wales policy and communications officer Bethan Winter

We are sad and proud in equal measures to advise that Bethan Winter has now left her post as the Wales policy and communications officer. Bethan was elected as the Labour MP for the Cynon Valley constituency in the general election and has already taken up her seat in Westminster. Although Bethan only joined UCU in May 2019, she quickly became a valued part of the team and we will miss her. Congratulations and good luck Beth!! 

As you will appreciate, Beth's swift departure leaves the Wales office temporarily understaffed, so we apologise in advance for any delays and thank you for your patience. 

In solidarity

UCU Wales
 


Yn e-bost heddiw:

  1. Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach yng Nghymru; Paratoi i annog pobl i bleidleisio (GTVO)
  2. Ffarwelio â Swyddog Polisi a Chyfathrebu Cymru, Bethan Winter

1. Anghydfod Cenedlaethol ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach yng Nghymru

Mae llwyth gwaith wedi bod yn broblem i'n haelodau ers peth amser. Fel y cofiwch, cawsom anghydfod â'r cyflogwyr ar ddiwedd 2017 a gwnaethom bleidleisio dros weithredu diwydiannol ym mis Ionawr 2018. 

Yn dilyn canlyniad y bleidlais, cynigodd corff cynrychioladol y pennaeth, ColegauCymru (CC) i gyd-drafod y llwyth gwaith pe bai'r cyd-undebau llafur yn tynnu'r anghydfod yn ôl. Gan weithredu'n ddidwyll, tynnodd y cyd-undebau llafur yr anghydfod yn ôl, ond torrodd CC y cytundeb yn dilyn hynny, ac felly aethom ati i holi barn aelodau unwaith eto ym mis Medi 2018. Gwnaeth 53.8% gymryd rhan yn y bleidlais, gyda 90.1% yn pleidleisio IE dros weithredu diwydiannol. 

Cytunodd ColegauCymru i drafod llwyth gwaith o'r diwedd, er ei fod wedi gwrthod ei drafod yn wreiddiol nes bod yr Anghydfod ynghylch Cyflogau a oedd yn mynd rhagddo ar yr un pryd yn dod i ben, gan gytuno i bennu cost y newidiadau i'r Cytundeb Llwyth Gwaith yn llawn a gwneud cyflwyniad ar y cyd i'r Gweinidog Addysg i sicrhau'r cyllid hwnnw. Fodd bynnag, pan oedd y wybodaeth yn barod, dywedodd CC nad oedd yn gallu llofnodi'r llythyr a ddrafftiwyd gan Swyddog Cymru i wneud cyflwyniad ar y cyd i'r Gweinidog. 

Roedd Arolygon Llwyth Gwaith a gynhaliwyd gan UCU a Chyngor y Gweithlu Addysg ar ran Llywodraeth Cymru yn glir iawn ynglŷn â'r oriau di-dâl ychwanegol y mae'r rhan fwyaf ohonoch yn eu gweithio er mwyn gallu cyflawni'r gwaith yn gywir, felly mae CC yn gwbl ymwybodol bod llawer ohonoch yn ei chael hi'n anodd ymdopi â llwythi gwaith. Mae'n golygu bod eu hymddygiad a'u tactegau oedi hyd yn oed yn fwy annerbyniol. Bydd angen cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn os na chaiff gwelliannau i lwythi gwaith eu rhoi ar waith yn sgil diswyddiadau ar draws y sector. Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Sector Addysg Bellach yng Nghymru (FESC) ym mis Hydref 2019, penderfynodd cynrychiolwyr o'ch cangen ddod ag anghydfod UCU i ben er mwyn gallu trafod cais gan y Cyd-Undebau Llafur ar lwyth gwaith a chytuno arno â'n chwaer-undebau yng Nghymru. 

Caiff cais newydd ei gyflwyno i ColegauCymru yn cwmpasu'r canlynol: 

  • gostwng uchafswm yr oriau addysgu wythnosol o 24 i 21
  • gostwng uchafswm yr oriau addysgu blynyddol o ganlyniad i hynny
  • cynyddu'r amser a roddir i baratoi a marcio o 20 munud i 30 munud am bob awr o addysgu.

Nod y Cyd-Undebau Llafur yw cyflwyno'r cais erbyn diwedd mis Ionawr 2020. Yn ogystal â chyflwyno'r cais, rydym yn cynnal pleidlais statudol ar gyfer streicio er mwyn ein galluogi i gymryd camau gweithredu diwydiannol yn gyflym pan fydd y cyflogwyr yn gwrthod mynd i'r afael â'n cais. Mae'n bosibl mai hyn fydd ein cyfle olaf i leihau llwyth gwaith darlithwyr er eu hiechyd a'u lles eu hunain yn ogystal â chynnal safon uchel o addysgu ym mhob rhan o'r sector Addysg Bellach yng Nghymru. 

Mae ar eich Undeb eich angen chi! 

Mae angen aelodau arnom o bob adran i wirfoddoli i'n helpu yn ystod ein pleidlais ar weithredu diwydiannol er mwyn sicrhau bod o leiaf 50% yn pleidleisio (y trothwy cyfreithiol sy'n ofynnol o dan y Ddeddf Undebau Llafur). Ni allaf orbwysleisio pa mor bwysig yw cael cynifer o bobl â phosibl i gymryd rhan yn ein pleidlais a dyna pam rydym yn gofyn am eich help.

Bydd y ddolen hon yn arwain at fwy o wybodaeth am annog pobl i bleidleisio (GTVO) ond peidiwch â gadael i hyn eich dychryn gan mai canllaw yw hwn i swyddogion cangen a chydlynwyr trefnu. 

Beth y gallwch ei wneud i helpu? 

Cyn gynted ag y bydd y bleidlais yn agor, bydd angen cynifer o wirfoddolwyr â phosibl arnom i gymryd rhan drwy drafod yr anghydfod a phwysigrwydd pleidleisio 'ie' yn y bleidlais ag aelodau yn eu hadran.

Mae angen aelodau arnom i ddosbarthu taflenni a llenyddiaeth.

Os ydych yn fodlon helpu, cysylltwch â chynrychiolwyr o'ch cangen leol neu anfonwch e-bost i pmarkham@ucu.org.uk i roi gwybod i ni eich bod yn fodlon helpu. Dylech nodi eich enw, eich adran a'ch rhif ffôn cyswllt a bydd rhywun yn cysylltu â chi i egluro'r hyn y gallwch ei wneud i helpu yn fwy manwl.

Rydym hefyd yn gofyn i bob aelod fynd ar-lein i'ch cofnod aelodaetha gwneud yn siŵr bod y data sydd gennym amdanoch yn gywir.

Yn olaf, pleidleisiwch IE yn y bleidlais #WorkloadMatters #ItsTimeFor21 

2. Ffarwelio â Swyddog Polisi a Chyfathrebu Cymru, Bethan Winter 

Rydym yn drist ac yn falch ar yr un pryd i'ch hysbysu bod Bethan Winter wedi gadael ei swydd fel Swyddog Polisi a Chyfathrebu Cymru erbyn hyn.

Cafodd Bethan ei hethol yn AS Llafur ar gyfer Etholaeth Cwm Cynon yn yr Etholiad Cyffredinol ac mae eisoes wedi derbyn ei sedd yn San Steffan.

Er mai dim ond ym mis Mai 2019 y gwnaeth Bethan ymuno ag UCU, daeth yn aelod gwerthfawr o'r tîm a byddwn yn gweld ei heisiau. Llongyfarchiadau a Phob Lwc Beth!! 

Fel y gallwch ddeall, mae Swyddfa Cymru yn brin o staff ar hyn o bryd yn dilyn ymadawiad cyflym Beth, felly ymddiheurwn ymlaen llawn am unrhyw oedi a diolch am eich amynedd. 

Mewn Undod

Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru 

Last updated: 17 January 2020