Fighting fund banner

 

Wales email: 26 November 2019 / E-bost Cymru: 26 Tachwedd 2019

26 November 2019

In today's email:

  1. HE strike

  2. Wales FE workload dispute

  3. Your UCU membership information

  4. Teacher Wellbeing Index 2019

  5. Education Support Partnership

1. HE Strike

Members at Bangor Cardiff and the University of Wales branches will be holding city-based rallies in Wales during the strike period. Cardiff University branch are holding a mass rally on Monday 25 November at 11.00 a.m. in Alexandra Gardens, Cathays Park with speeches and music. Bangor University branch will march from the university to the cenotaph in town where they will be holding a rally at 12 noon on Friday 29 November with speeches and more. We would encourage members from neighbouring branches to come join our members at the rally and support our members on strike. The first wave of strike action begins on Monday 25 November, running up to and including Wednesday 4 December.

Recognising that not all branches will be able to take part in strike action, we are suggesting that those branches who are unable to come out on strike should take part in city centre rallies and work together with branches involved in strike action to coordinate city based rallies. Another way that members who are unable to take strike action can help is by donating to the UCU strike fund here.

2. Wales FE workload dispute

COMING SOON: an email from the Wales official on November 27 and a single question survey on December 2. Please respond to the survey by the 6th December, we need to know what the proposed changes to the workload agreement would mean to you.

The workload issue hasn't gone away. We are listening and know that excessive workloads are still a problem for many of you. It's time that changed. #WorkloadMatters

3. Your UCU membership information

Is your membership information up to date? It is essential that we hold reliable email and postal information for you, and that your employment details are correct. Did you know that you can now update your own UCU membership details via MyUCU? If you haven't already, why not register today and check the information we hold for you?

4. Teacher Wellbeing Index 2019

Please click on the following link to access the latest Teacher Wellbeing Index.

5. Education Support Partnership

Please note that the Education Support Partnership has changed their name online and on social media - they are now called Education Support.

In solidarity / Mewn undod
UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru


Yn e-bost heddiw:

  1. Streic AU

  2. Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach yng Nghymru

  3. Gwybodaeth am eich Aelodaeth â'r Undeb Prifysgolion a Cholegau

  4. Mynegai Llesiant Athrawon 2019

  5. Partneriaeth Cymorth Addysg

1. Streic AU

Bydd aelodau o ganghennau Prifysgol Bangor, Caerdydd a Phrifysgol Cymru yn cynnal ralïau mewn dinasoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y streic. Bydd cangen Prifysgol Caerdydd yn cynnal rali dorfol ddydd Llun 25 Tachwedd am 11.00 a.m. yng Ngerddi Alexandra ym Mharc Cathays a fydd yn cynnwys areithiau a cherddoriaeth. Bydd cangen Prifysgol Bangor yn gorymdeithio o'r brifysgol i'r senotaff yn y dref lle bydd yn cynnal rali am 12 y prynhawn, ddydd Gwener 29 Tachwedd a fydd yn cynnwys areithiau a mwy. Byddem yn annog aelodau o ganghennau cyfagos i ddod i ymuno â'n haelodau yn y rali a'u cefnogi wrth iddynt streicio. Mae'r don gyntaf o weithredu yn dechrau ddydd Llun 25 Tachwedd ac yn para hyd at ddydd Mercher 4 Rhagfyr.

Gan gydnabod y ffaith na fydd pob cangen yn gallu cymryd rhan yn y streic, rydym yn awgrymu y dylai'r canghennau hynny na allant streicio gymryd rhan yn y ralïau mewn dinasoedd. Awgrymwn hefyd y dylent weithio gyda'r canghennau sy'n streicio i gydlynu ralïau yn y dinasoedd. Ffordd arall y gall yr aelodau sy'n methu â streicio helpu yw drwy gyfrannu at gronfa streicio UCU yma. 

2. Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach yng Nghymru

YN DOD YN FUAN: e-bost gan Swyddog Cymru ar 27 Tachwedd ac arolwg un cwestiwn ar 2 Rhagfyr. Ymatebwch i'r arolwg erbyn 6 Rhagfyr gan fod angen i ni wybod beth fyddai'r newidiadau arfaethedig i'r cytundeb llwyth gwaith yn ei olygu i CHI.

Nid yw'r mater yn ymwneud â llwyth gwaith wedi dod i ben. Rydym yn gwrando arnoch ac yn gwybod bod llwythi gwaith gormodol yn parhau i fod yn broblem i sawl un ohonoch. Mae'n amser newid hynny. #MaeLlwythGwaithynBwysig

3. Gwybodaeth am eich Aelodaeth â'r Undeb Prifysgolion a Cholegau

A yw'r wybodaeth am eich aelodaeth yn gyfredol? Mae'n hollbwysig bod gennym wybodaeth ddibynadwy am eich cyfrif e-bost a'ch cyfeiriad post a bod eich manylion cyflogaeth yn gywir. Wyddech chi y gallwch ddiweddaru'r manylion am eich aelodaeth â'r Undeb Prifysgolion a Cholegau ar MyUCU? Os nad ydych chi eisoes wedi gwneud hyn, gallwch gofrestru heddiw a gwirio'r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch.

4. Mynegai Llesiant Athrawon 2019

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael mynediad i'r Mynegai Llesiant Athrawon diweddaraf.

5. Partneriaeth Cymorth Addysg

Noder bod y Bartneriaeth Cymorth Addysg wedi newid ei henw ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol i Cymorth Addysg.

In solidarity / Mewn undod
UCU Wales / Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 4 December 2019