Fighting fund banner

 

E-bost Cymru: 19 Tachwedd 2019 / Wales email: 19 November 2019

19 November 2019

Yn e-bost heddiw:

  1. Streic AU

  2. Diweddariad ar yr Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach a Lansio'r Ymgyrch

  3. Diweddariad ar Gyflog

  4. Gwybodaeth am Rwydwaith Polisi

1. Streic AU

Mae canghennau AU yn dechrau cynllunio ralïau mewn dinasoedd yng Nghymru yn ystod cyfnod y streic. Mae'r don gyntaf o weithredu yn dechrau ddydd Llun 25 Tachwedd ac yn para hyd at ddydd Mercher 4 Rhagfyr. Ar hyn o bryd, mae'n debygol y bydd rali ym Mangor a Chaerdydd.

Gan gydnabod y ffaith na fydd pob cangen yn gallu cymryd rhan yn y streic, rydym yn awgrymu y dylai'r canghennau hynny na allant streicio gymryd rhan yn y ralïau mewn dinasoedd. Awgrymwn hefyd y dylent weithio gyda'r canghennau sy'n streicio i gydlynu raliau yn y dinasoedd. Ffordd arall y gall yr aelodau sydd methu â streicio helpu yw drwy gyfrannu at gronfa streicio UCU yma.

2. Diweddariad ar yr Anghydfod ynghylch Llwyth Gwaith Addysg Bellach a Lansio'r Ymgyrch

Trafodwyd y mater hwn yn fanwl yn ystod cyfarfod y Cyd-Undebau Llafur ar 13 Tachwedd a chytunwyd y byddai pob Undeb academaidd yn cynnal pleidlais statudol o'i aelodau ar hawliad newydd y Cyd-Undebau Llafur sydd â'r nod o leihau'r oriau wythnosol i 21 awr a chynyddu'r amser paratoi a marcio o 20 munud i 30 munud. Caiff y bleidlais ei chynnal ym mis Chwefror 2020 fwy na thebyg.

Rydym yn bwriadu lansio Ymgyrch Llwyth Gwaith Addysg Bellach ddechrau mis Rhagfyr 2019 i godi ymwybyddiaeth ac adeiladu momentwm cyn y bleidlais ar ddechrau 2020. Fel rhan o hyn, bydd Swyddog Cymru, Margaret Phelan, yn anfon e-bost personol at bob aelod Addysg Bellach am yr anghydfod, bwletinau gwybodaeth rheolaidd (Drwy e-bost dydd Mawrth a'r cyfryngau cymdeithasol) ynghylch y llwyth gwaith. Hefyd, bydd yr ymgyrch yn cael ei dosbarthu ac anogir yr aelodau i godi ymwybyddiaeth o fewn eu sefydliad (gydag aelodau a'r sawl nad ydynt yn aelodau) ynghylch materion yn ymwneud â llwyth gwaith.

Yn fwy penodol, hoffem dynnu eich sylw at holiadur byr a gaiff ei anfon yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr at bob aelod yn gofyn am ymateb byr (3-4 llinell yn unig) i'r cwestiwn canlynol: "Beth fyddai cael wythnos addysgu 21 awr yn ei olygu i chi?" Bydd y wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio i lywio'r ymgyrch a gall gael ei chynnwys yn y taflenni. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth.

3. Diweddariad ar Gyflog

Cafodd y Cyd-Undebau Llafur lythyr gan Colegau Cymru yn cynnig cynnydd o 2.75% ar bob graddfa heblaw am ddarlithwyr Prif Raddfa 1 a fydd yn cael codiad o 5%. Cytunodd y Cyd-Undebau Llafur i roi'r cynnig gerbron eu haelodau priodol ar ôl i Colegau Cymru gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn mynd i ariannu'r cynnydd. Rydym yn gobeithio y gallwn ddatrys y mater hwn o fewn amser rhesymol.

4. Gwybodaeth am Rwydwaith Polisi

Yn ddiweddar, aeth Beth Winter, Swyddog Polisi Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru, i gyfarfod Rhwydwaith Polisi TUC Cymru. Roedd yn gyfarfod defnyddiol a diddorol iawn gyda'r pwrpas o alluogi Swyddogion Polisi o wahanol Undebau Llafur i ddod at ei gilydd i rannu syniadau, blaenoriaethau a gwybodaeth am bolisïau. Mae'r canlynol yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a ddeilliodd o'r cyfarfod a allai fod o fudd i'r canghennau.

Mewn undod / In solidarity
Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru / UCU Wales


In today's email:

  1. HE strike

  2. FE workload dispute update & campaign launch

  3. Pay update

  4. Policy network information

1. HE strike

HE branches are starting to plan city-based rallies in Wales during the strike period. The first wave of strike action begins on Monday 25 November, running up to and including Wednesday 4 December. At the moment, it is looking like there will be a rally in Bangor and Cardiff.

Recognising that not all branches will be able to take part in strike action we are suggesting that those branches who are unable to come out on strike should take part in city centre rallies and work together with branches involved in strike action to coordinate city based rallies. Another way that members who are unable to take strike action can help, is by donating to the UCU strike fund here.

2. FE workload dispute update & campaign launch

This matter was discussed in detail at the joint trade union meeting on 13 November, at which time it was agreed that every academic union would conduct a statutory ballot of its members on a new joint trade union claim which aims to reduce the weekly hours to 21 and increased the preparation and marking time to from 20 minutes to 30 minutes. The ballot will probably take place during February 2020.

We intend to launch a FE workload campaign at the beginning of December 2019 to raise awareness and build momentum in advance of the ballot in early 2020. As part of this the Wales official, Margaret Phelan, will send a personalised email to every FE member about the dispute, regular information bulletins (via Tuesday email and social media) about workload and the campaign will be circulated and members are encouraged to raise awareness within their institution (with non-members as well as members) about workload issues.

More specifically we wish to bring to your attention that in the first week of December a short survey will be sent to every member asking you to provide a brief response (3 -4 lines only) to the following question: "What would a 21 hour maximum teaching week mean for you?". The information you provide will be used to inform the campaign and may be included on leaflets. More information to follow so please watch this space.

3. Pay update

The JTUs received a letter from CC offering 2.75% on all scales except MG1 where the uplift will be 5%. The JTUs agreed to put the offer to their respective membership once CC confirmed that Welsh Government were going to fund the increase. We are hopeful that we can get this matter sorted within a reasonable time frame.

4. Policy network information

UCU Wales policy officer, Beth Winter, recently attended a Wales TUC policy network meeting. It was an extremely useful and interesting meeting with the purpose being to enable policy officers from a range of trade unions to come together to share policy ideas, priorities and information. The following is some useful information that came out of the meeting that branches may find useful:

Mewn undod / In solidarity
Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru / UCU Wales

Last updated: 4 December 2019