Fighting fund banner

 

Wales email: 1 October 2019 / E-bost Cymru: 1 Hydref 2019

1 October 2019

Wales flag In today's email:

  1. HE pay and equality and USS disputes: GTVO

  2. Climate change protests

  3. UCU black, asian and minority ethnic HE & FE staff survey

  4. Childcare for academic conferences in south Wales - questionnaire for HE academic staff

  5. IPPR report

1. HE pay and equality and USS disputes: GTVO
Please let us know how you are doing with your get the vote out (GTVO) campaign. We are now in week 4 of the ballot period. Officials from UCU Wales have offered to support branches in efforts to Get The Vote Out. We now have limited availability but if your branch would like someone to come and help out, we will do our best to send someone along. Email Phil here. We need to achieve over a 50% turnout in the ballot. Please stand up for education and a fair deal for HE staff by voting YES for action and show the employers we are prepared to stand up and be counted. If you haven't received your ballot yet then you can order one by clicking on the following link: here.

2. Climate change protests
Thank you to everyone who participated in the climate change protests on 20 September. It was great to see so many UCU members join the protests across Wales in solidarity with children and young people to demand climate justice. Remember that you can follow all the action on our Climate Shutdown! online wall here.

3. UCU black, asian and minority ethnic HE & FE staff survey
UCU is conducting a survey to collate the views of our black, asian and minority ethnic members regarding their experience in the workplace. We are asking black, asian and minority ethnic staff in further and higher education in Wales to tell us about their experiences at work. The survey is being circulated from UCU head office. If you are a BAME member in Wales and have not received the survey please contact Christopher Nicholas. There are four sections and 15 questions in this survey. All responses will be treated in strict confidence. We hope you can spare a few minutes to share your thoughts. The closing date for the survey is Friday 25 October.

4. Childcare for academic conferences in south Wales - questionnaire for HE academic staff
A postgraduate student at Cardiff Metropolitan University is researching demand for a mobile/popup childcare service for academic conferences in south Wales. If you're an academic staff member at an HE institution in south Wales, attend a conference at least once a year and have childcare responsibilities, and would like to participate, the 10-minute online questionnaire can be accessed here. The closing date is Friday 25 October 2019.

5. IPPR report
The Institute for Public Policy Research (IPPR) are undertaking research into the challenges and opportunities to create a 21st century skills system for Wales. Please click on the following link to access their first report and we will keep you updated on progress with their final report.

In solidarity     
UCU Wales


Yn e-bost heddiw: 

  1. Cyflog a chydraddoldeb addysg uwch ac anghydfodau cynllun pensiynau'r prifysgolion: GTVO 

  2. Protestiadau newid yn yr hinsawdd

  3. Arolwg staff duon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig AU ac AB 

  4. Gofal plant ar gyfer cynadleddau academaidd yn ne Cymru- holiadur i staff academaidd AU

  5. Adroddiad blynyddol  sefydliad ymchwil polisi cyhoeddus

1. Cyflog a chydraddoldeb addysg uwch ac anghydfodau cynllun pensiynau'r prifysgolion: GTVO
Rhowch wybod i ni sut mae pethau'n mynd gyda'ch ymgyrch i annog pobl i bleidleisio (GTVO). 
Rydym bellach wedi cyrraedd y 4edd wythnos o'r cyfnod pleidleisio. Mae swyddogion o UCU Cymru wedi cynnig rhoi cymorth i ganghennau er mwyn annog pobl i bleidleisio. Adnoddau cyfyngedig sydd gennym bellach ond os hoffai eich cangen gael rhywun i ddod i helpu, byddwn yn gwneud ein gorau i anfon rhywun atoch. E-bost yma. Mae angen i ni gyrraedd 50% o ran y ganran sy'n pleidleisio. Gweithredwch dros addysg a bargen deg i staff AU drwy bleidleisio IE i weithredu a dangos i gyflogwyr ein bod ni'n barod i leisio'n barn. Os nad ydych wedi derbyn eich papur pleidleisio eto, gallwch archebu un drwy glicio ar y ddolen ganlynol: yma.

2. Protestiadau newid yn yr hinsawdd
Diolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn y protestiadau newid yn yr hinsawdd ar 20 Medi. Roedd yn braf gweld cynifer o aelodau UCU Cymru yn ymuno yn y protestiadau ledled Cymru mewn undod â'r plant a phobl ifanc i fynnu cyfiawnder hinsawdd. Cofiwch y gallwch ddilyn yr holl newyddion diweddaraf ar ein tudalen Climate Shutdown! yma.

3. Arolwg staff duon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig AU ac AB
Mae UCU yn cynnal arolwg i gasglu safbwyntiau ein haelodau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o ran eu profiad yn y gweithle. Rydym yn gofyn i staff Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy'n gweithio mewn addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru i ddweud wrthym am eu profiadau yn y gwaith. Caiff yr arolwg ei ddosbarthu gan brif swyddfa UCU. Os ydych yn aelod BAME yng Nghymru ac nad ydych wedi derbyn yr arolwg eto, gallwch gysylltu â Christopher Nicholas. Mae pedair adran a 15 o gwestiynau yn yr arolwg hwn. Caiff pob ymateb ei drin yn gwbl gyfrinachol. Rydym yn gobeithio y gallech roi ychydig o funudau o'ch amser i rannu eich barn. Dyddiad cau'r arolwg yw Dydd Gwener 25 Hydref.

4. Gofal plant ar gyfer cynadleddau academaidd yn ne Cymru - holiadur i staff academaidd AU
Mae myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymchwilio i'r galw am wasanaeth gofal plant symudol ar gyfer cynadleddau academaidd yn Ne Cymru. Os ydych yn aelod academaidd o staff mewn sefydliad AU yn Ne Cymru, yn mynychu cynhadledd o leiaf unwaith y flwyddyn a bod gennych gyfrifoldebau gofal plant, a'ch bod yn awyddus i gymryd rhan, gallwch gael gafael ar yr holiadur deng munud ar-lein yma. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 25 Hydref 2019.

5. Adroddiad blynyddol  sefydliad ymchwil polisi cyhoeddus
Mae'r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus (IPPR) yn cynnal ymchwil i'r heriau a'r cyfleoedd i greu system sgiliau yn yr 21ain ganrif i Gymru. Cliciwch ar y ddolen ganlynol er mwyn gweld ei adroddiad cyntaf a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ei adroddiad terfynol.

Mewn undod 
Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru

Last updated: 3 October 2019